Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Serfigol Cymru 2022 i 2023

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 19eg Mawrth 2026

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Prif Ystadegau

Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu gweithgaredd o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 yn gynwysedig.

  • Ar 31 Mawrth 2023, roedd cwmpas y sgrinio yn 68.2% ledled Cymru, ac yn fwy na 66% ym mhob Bwrdd Iechyd. Mae’r ffigur hwn yn cyfuno cyfran y rhai 25-49 oed a gafodd eu sgrinio yn y 3.5 mlynedd blaenorol, a chyfran y rhai 50-64 oed a gafodd eu sgrinio yn y 5.5 mlynedd blaenorol. Gelwir hyn yn gwmpas ‘addas i’r oedran’.
  • Yn 2022-23 gwahoddwyd 228,143 o unigolion rhwng 25 a 64 oed i gael eu sgrinio.
  • Cafodd 170,892 o unigolion eu sgrinio yn 2022-23, (gan gynnwys y rhai â chanlyniadau annigonol). Mae’r nifer hwn yn cynnwys unigolion a gafodd eu sgrinio yn ystod y flwyddyn 2022-23 ac nid yw’n adlewyrchu’r holl unigolion a wahoddwyd yn y flwyddyn honno.
  • Archwiliodd labordai 173,494 o samplau gan drigolion Cymru yn 2022-23.
  • Mewn 0.3% o brofion roedd y canlyniad terfynol yn ‘annigonol’. Mae ‘annigonol’ yn golygu nad oedd ansawdd y sampl yn ddigonol i gynhyrchu canlyniad Feirws Papiloma Dynol (HPV) neu cytoleg, fel roedd yn briodol.
  • Mae’r Gwerth Rhagfynegol Positif (PPV) yn cyfatebu cytoleg gradd uchel â histoleg gradd uchel. Ar gyfer 2021-22, mae’r PPV ar gyfer Cymru yn 83.9%.
  • Gwelwyd 9,185 o gleifion newydd mewn clinigau colposgopi yng Nghymru yn 2022-23, gyda 67.7% wedi cael eu hatgyfeirio’n uniongyrchol gan Sgrinio Serfigol Cymru a 32.3% am resymau clinigol, e.e. symptomau neu geg y groth ag ymddangosiad annormal.
  • Cafodd 1 o bob 23 o unigolion a sgriniwyd yn ystod y flwyddyn eu hatgyfeirio’n uniongyrchol am golposgopi gan Sgrinio Serfigol Cymru. O’r rhain, roedd gan 1 o bob 148 o unigolion (llai nag 1%) ganser.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Serfigol Cymru 2022-23

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Serfigol Cymru 2022-23 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig