Neidio i'r cynnwys

Digwyddiad rhwydweithio CoPGY Ionawr 2023: Adnoddau

Ar 17 Ionawr 2023 cynhaliwyd ein digwyddiad rhwydweithio cyntaf, a fynychwyd gan dros 100 o bobl yn cynrychioli iechyd y cyhoedd, byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac academia. Canolbwyntiodd y diwrnod ar feithrin sgyrsiau a chysylltiadau ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan:

  • Yr Athro Robert West – Athro Emeritws mewn Seicoleg Iechyd, Canolfan Newid Ymddygiad, Coleg Prifysgol Llundain
  • Dr Megan Elliott – Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Dr Paul Chadwick – Seicolegydd Clinigol ac Iechyd Ymgynghorol, Athro Cyswllt Anrhydeddus, Canolfan Newid Ymddygiad UCL, Cyfarwyddwr Behaviour is Everything
  • Jodie Phillips – Rheolwr Cyfathrebu ar gyfer y Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatall drwy Frechu (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)
  • Dr Michelle Constable – Pennaeth yr Uned Newid Ymddygiad, Cyngor Sir Hertfordshire

Cael mynediad at sleidiau’r cyflwyniadau hyn (Saesneg yn unig).