Neidio i'r cynnwys

Ymunwch ag Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus

Ymunwch â’r grŵp!

Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn credu ei bod yn hanfodol clywed yn uniongyrchol gan bobl Cymru am bolisïau ac arferion iechyd sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a’r genedl gyfan.

Rydym am glywed gan ystod ehangach o bobl o bob rhan o Gymru, gan gynnwys pobl o wahanol:

  • oedrannau
  • rhywiau
  • cefndiroedd ethnig
  • lleoliadau a chymunedau

Gall eich barn, eich agweddau a’ch profiadau helpu i lunio gwaith iechyd y cyhoedd a helpu i sicrhau bod penderfyniadau o ran polisi ac ymarfer yn adlewyrchu anghenion pobl ledled Cymru.

Trwy ymuno â TTPH, byddwch yn gweithio gyda ni i rannu eich barn ar bynciau pwysig ym maes iechyd y cyhoedd a helpu i wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant yng Nghymru.

Ydych chi’n pendroni pam y dylech chi ymuno â TTPH? Gadewch inni eich helpu i ddysgu pam.

Ymuno â’r grŵp Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus
Baner yn dangos manteision allweddol ymuno â’r grŵp Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, sy’n cynnwys helpu eich cymuned, mynd i'r afael â anghydraddoldebau iechyd, gwella lles a siapio dyfodol iachach i Gymru.

Sut mae TTPH yn gweithio?

Fel aelod o TTPH, byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn tri arolwg y flwyddyn (mis Chwefror, mis Mehefin a mis Hydref). Bydd yr arolygon yn gofyn am bynciau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd a allai effeithio ar eich iechyd chi ac iechyd pobl Cymru. Mae enghreifftiau o bynciau’n cynnwys cyflogaeth, tai, ymddygiadau iechyd, costau byw, newid hinsawdd, brechlynnau a’r mathau o gymorth neu wybodaeth iechyd y byddech chi eisiau eu defnyddio a’u cael fel rhywun sy’n byw yng Nghymru.

Mae dwy ffordd o gymryd rhan: 

  1. Ar-lein – Byddai dolen bersonol yn cael ei hanfon i’ch cyfeiriad e-bost pan fydd arolwg yn barod. Bydd yn cymryd tua 10 munud i’w lenwi bob tro; neu
  2. Ffôn – Byddai cyfwelydd hyfforddedig o DJS Research yn eich ffonio ar adeg sy’n gyfleus i chi. Bydd yn cymryd tua 15-20 munud i’w gwblhau bob tro. 

Mae croeso i chi gwblhau’r arolwg yn y Gymraeg neu’r Saesneg (gall ieithoedd eraill fod ar gael ar gais).

Pam y dylwn i gymryd rhan?

Bydd eich atebion yn cyfrannu at waith llunio polisi ac arferion iechyd y cyhoedd  yng Nghymru. Byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ac am y ffordd mae eich cyfranogiad yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.

Gallai eich cyfranogiad wneud y canlynol:

  • Helpu eich cymuned
  • Gwella eich cymdeithas
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd
  • Gwella iechyd a llesiant
  • Creu dyfodol iachach
  • Cefnogi cenedlaethau’r dyfodol
  • Cynrychioli Cymru yn y byd sydd ohoni

Pwy all gymryd rhan?

Mae croeso i drigolion Cymru sy’n 16 oed a hŷn ymuno â’r grŵp TTPH. Mae gan TTPH tua 2,500 o bobl sy’n adlewyrchu poblogaeth Cymru. Mae angen ystod amrywiol o drigolion o bob rhan o Gymru i gymryd rhan er mwyn inni allu casglu ystod eang o safbwyntiau. Dim ond un aelod o bob aelwyd all fod yn rhan o’r grŵp TTPH.

Os nad ydych chi’n gallu cymryd rhan, rhowch wybod i ni os oes diddordeb gan rywun arall yn eich aelwyd, a gallwn ni wirio a fydd yr unigolyn hwnnw’n cydweddu â’r grwpiau rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw ar hyn o bryd.

A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae cymryd rhan yn TTPH yn gwbl wirfoddol. Gall aelodau dynnu’n ôl o’r grŵp ar unrhyw adeg, ac nid oes rhaid iddynt roi rheswm dros dynnu’n ôl. Ni fyddai penderfyniad i dynnu’n ôl yn effeithio ar eich hawliau, unrhyw driniaeth iechyd rydych yn ei chael ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, nac unrhyw wasanaethau a gewch chi.

Beth y byddai’n rhaid i mi ei wneud?

Ar ôl ichi gydsynio i gymryd rhan yn TTPH, gofynnir i chi lenwi arolwg cofrestru cychwynnol a ddylai gymryd 5 munud.

Yna gofynnir i chi gwblhau tri arolwg y flwyddyn (ym mis Chwefror, mis Mehefin a mis Hydref), naill ai ar-lein neu dros y ffôn. Disgwylir y bydd cymryd rhan ar-lein yn cymryd 10 munud, ac y bydd cymryd rhan dros y ffôn yn cymryd 15-20 munud.

Os na allwch gymryd rhan mewn arolwg am unrhyw reswm, peidiwch â phoeni – gallwch chi wneud yr un nesaf. Fodd bynnag, os byddwch yn methu tri arolwg yn olynol, efallai y cewch eich tynnu o’r grŵp TTPH.

Efallai y cewch eich gwahodd o bryd i’w gilydd i gymryd rhan mewn arolygon neu ymchwil arall gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, gofynnir i chi roi cydsyniad ychwanegol i hyn ddigwydd.

Sut beth yw’r cwestiynau?

Diffinnir iechyd y cyhoedd fel “gwyddor amddiffyn a gwella iechyd teuluoedd a chymunedau lle maent yn byw, yn dysgu, yn gweithio ac yn chwarae”.

Mae hyn yn golygu y gallai’r pynciau y gofynnir i chi amdanynt fod yn unrhyw beth a allai effeithio ar eich iechyd chi neu ar iechyd pobl Cymru, fel ymddygiadau iechyd, cyflogaeth, costau byw, newid hinsawdd, iechyd meddwl, tai, neu’r gwasanaethau rydych chi’n eu defnyddio, o bosib.

Gofynnir i chi hefyd am rywfaint o wybodaeth gyffredinol amdanoch chi, eich iechyd a’ch ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd i’n helpu i ddeall mwy am eich barn a’ch agweddau. Nid oes atebion cywir nac anghywir.  Ni fydd unrhyw atebion a roddwch yn effeithio ar unrhyw wasanaethau y byddwch yn eu cyrchu.

A oes unrhyw risgiau o ganlyniad i gymryd rhan?

Nid oes unrhyw risgiau disgwyliedig o ganlyniad i gymryd rhan yn TTPH. Bydd yr holl ddata a gesglir fel rhan o TTPH yn cael ei storio’n ddiogel. Ni fydd eich data personol (e.e. eich enw) yn cael ei storio’n uniongyrchol gyda’r atebion a ddarparwch i’r arolygon. Bydd pob aelod o TTPH yn cael cod adnabod unigryw a gynhyrchir ar hap, a bydd hwnnw’n cael ei neilltuo i’ch atebion.

A fydd fy ymatebion yn gyfrinachol?

Mae eich ymatebion gonest yn bwysig i ni. Felly, bydd yr holl wybodaeth a ddarparwch fel rhan o TTPH yn gwbl gyfrinachol, ac ni fydd yn cael ei storio gyda’ch enw ynghlwm wrthi.

Ni fydd unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn adroddiadau sy’n defnyddio’r canfyddiadau yn eich adnabod chi. Bydd y data, gan gynnwys data personol adnabyddadwy, yn cael eu storio’n ddiogel gan y cwmni ymchwil marchnad a gomisiynwyd (DJS Research Ltd) ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddant hefyd yn cael eu storio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n bosibl y caiff eich data eu rhannu â chwmni ymchwil i’r farchnad gwahanol os bydd y cwmni ymchwil i’r farchnad rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ef yn newid yn y dyfodol. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw newidiadau yn y cwmni ymchwil i’r farchnad.

Ni fydd eich atebion yn cael eu rhannu gydag unrhyw un nad ydynt yn rhan o dîm y prosiect, ONI BAI eich bod yn datgelu bwriad i niweidio eich hun neu rywun arall, gwybodaeth sy’n nodi y gall rhywun achosi risg ddifrifol o niwed i chi neu’r cyhoedd, neu’r bwriad i gyflawni gweithred derfysgaeth. Byddem yn trafod hyn gyda chi cyn dweud wrth unrhyw un arall.

A fydda i’n gallu gweld y canfyddiadau?

Bydd canfyddiadau arolygon TTPH yn cael eu hysgrifennu mewn adroddiadau ac allbynnau tebyg (e.e. cyflwyniadau). Os ydych chi wedi darparu cyfeiriad e-bost, bydd yr adroddiadau allweddol a gyhoeddir o bob arolwg yn cael eu rhannu â chi’n uniongyrchol.

Bydd yr adroddiadau hefyd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. Gallwch eu gweld ar eintudalen cyhoeddiadau.

A allaf dynnu’n ôl o TTPH?

Wrth gwrs. Gallwch dynnu’n ôl o TTPH ar unrhyw adeg. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy, gan gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt, yn cael ei dileu yn dilyn yr hysbysiad tynnu’n ôl. Bydd rhywfaint o wybodaeth na ellir ei hadnabod fel band oedran, rhyw, a lleoliad daearyddol (e.e. gwledig/trefol) yn cael ei chadw i’n helpu i ddeall y mathau o bobl sy’n tynnu’n ôl a phryd.

Am fod adroddiadau ac allbynnau eraill o’r data yn cael eu cynhyrchu’n rheolaidd, mae’n debygol y bydd rhywfaint o’ch data eisoes wedi’i gynnwys mewn allbwn, ac felly ni fydd yn bosibl tynnu’ch data o’r allbynnau hynny.

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i ni eich bod chi am dynnu’n ôl, rhowch wybod i ni sut yr hoffech chi dynnu’n ôl, am fod dau opsiwn ar gael: 

  • Opsiwn 1 – Tynnu eich cyfranogiad yn ôl o hyn ymlaen, ond gellir parhau i ddefnyddio’r data rydych chi eisoes wedi’i roi’n garedig mewn dadansoddiadau ac allbynnau pellach (e.e. a fydd yn caniatáu inni fesur newidiadau dros amser).
  • Opsiwn 2 – Tynnu eich cyfranogiad yn ôl o hyn ymlaen a dileu eich data yn gyfan gwbl o unrhyw ddadansoddiadau ac allbynnau pellach. 

Gyda phwy ydw i’n cysylltu ynglŷn â TTPH?

Mae DJS Research yn gwmni ymchwil sydd wedi cael ei gomisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu TTPH.

DJS Research yw’r prif bwynt cyswllt, am mai nhw sy’n rheoli TTPH ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01663 761 697.  Mae DJS Research yn aelod llawn o’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad. Maent wedi’u rhwymo gan God Ymddygiad Cymdeithas Ymchwil i’r Farchnad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mholisi preifatrwydd DJS Research .

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Sut mae gwneud cwyn?

DJS Research yw’r prif bwynt cyswllt am mai nhw sy’n rheoli TTPH. Os oes gennych gwestiynau neu bryderon, cysylltwch [email protected] neu ffoniwch 01663 761 697. Rydym yn croesawu pob gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Os nad yw DJS Research wedi gallu datrys eich pryderon, mae croeso i chi wneud cwyn ffurfiol i Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 029 2022 7744.

Sut y caiff fy nata eu storio neu eu defnyddio?

Mae diogelu data personol yn un o brif flaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru a DJS Research Ltd, ac mae wedi bod felly erioed. Mae DJS Research yn cydymffurfio â chanllawiau a gofynion y cod ymddygiad proffesiynol sy’n berthnasol i bob cwmni ymchwil i’r farchnad cofrestredig a’r holl reoliadau lleol cyfredol, yn enwedig o ran diogelu data ymatebwyr. Mae DJS Research yn defnyddio technegau anonymeiddio i ddiogelu data personol ymatebwyr fel rhan o’i weithrediadau casglu data. Mae mynediad at ddata personol wedi’i gyfyngu i’r bobl sydd angen gweithio gyda’r data’n uniongyrchol yn unig.

Dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol at ddibenion TTPH y bydd eich data personol (e.e. enw) yn cael eu storio. Ar ben hynny, ni fydd eich data personol yn cael eu storio’n uniongyrchol gyda’r atebion rydych yn eu darparu i’r arolygon.

Os ydych chi’n pryderu ynghylch sut mae eich data’n cael eu rheoli, ewch i hysbysiad preifatrwydd DJS Research a Hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae croeso i chi hefyd anfon e-bost i [email protected] neu ffonio 01663 761 693 i drafod unrhyw bryderon.

Ymuno â’r grŵp Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus