Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Sut i gyflwyno’r achos dros fuddsoddi cynaliadwy mewn tegwch iechyd a llesiant: Canllaw ymarferol

  • Buddsoddi cynaliadwy
  • Economi iechyd
Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 8fed Gorffennaf 2019

Awduron: Kathryn Ashton, Mariana Dyakova, Anna Stielke, Mark Bellis

Math o gyfeiriad: Canllawiau

Crynodeb:

Nid yw annhegwch ym maes iechyd yn anochel. Caiff camau polisi cydgysylltiedig ar benderfynyddion iechyd ynghyd â dulliau llywodraethu sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu’n dda effaith ddeuol ar leihau’r bwlch iechyd a gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth. Y canllaw hwn yw’r cynnyrch cyntaf a ddatblygwyd o dan Raglen Waith Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles ac mae’n amlinellu pedwar cam allweddol ar sut i syntheseiddio, trosi a chyfleu tystiolaeth economeg iechyd y cyhoedd yn bolisi ac ymarfer. Mae’r pedwar cam cydberthynol yn arwain y darllenydd drwy’r broses o ddatblygu cynhyrchion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd yn benodol i gyd-destun a chynulleidfa darged.

Nod y canllaw yw atal dadfuddsoddi mewn iechyd, cynyddu buddsoddiad mewn ataliaeth (iechyd y cyhoedd), a phrif ffrydio buddsoddiad traws-sectoraidd er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch, gan ysgogi datblygu cynaliadwy ar gyfer ffyniant i bawb. Fe’i datblygwyd yn seiliedig ar ymagwedd dull cymysg gan gynnwys adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau ag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymgynghoriad rhanddeiliaid aml-sectoraidd oedd yn sicrhau perthnasedd a’r gallu i drosglwyddo ar draws sectorau, cyd-destunau, lleoliadau a gwledydd.

Darllenwch y crynodeb gweithredol sy’n berthnasol i’r canllaw ymarferol yma.

Deunydd cyfeirio wedi'u llawrlwytho

  • Sut-i-gyflwyno'r-achos-dros-fuddsoddi-cynaliadwy-mewn-tegwch-iechyd-a-llesiant

    PDF, 7 MB

    Llawrlwytho PDF