Neidio i'r cynnwys
Asesiadau Effaith ar Iechyd

Asesiad o’r effaith ar iechyd cyfranogol cyflym o gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol yng Nghymru

Manylion:

Awduron: Catrin Lyddon, Jen Sharp

Cyhoeddwyd ar: 20fed Ionawr 2026

Crynodeb:

Cynhaliwyd yr adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (AEI) hwn gan Dîm y Prosiect Sgrinio Canser yr Ysgyfaint, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o’r GIG, a gefnogwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC), drwy hwyluso gweithdy cyfranogol AEI. Sefydlwyd tîm y prosiect ym mis Ebrill 2024 ac fe gafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Medi 2025. Canolbwyntiodd yr AEI cyfranogol cyflym ar gasglu gwybodaeth a mewnwelediad rhanddeiliaid Cymru i’r cynlluniau arfaethedig i gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol o safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth a’r rhai sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cefndir i’r prosiect ac i’r AEI ei hun, cyn edrych ar y gweithdy AEI Cyfranogol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2024 yn fanylach. Mae’n dangos pa grwpiau poblogaeth a nodwyd a’r penderfynyddion iechyd yn unigol, gan ddefnyddio rhestrau gwirio Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd UGAEIC. Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai’r Rhaglen Sgrinio Canser yr Ysgyfaint Genedlaethol fod o fudd mawr i boblogaeth Cymru, drwy nodi canserau’r ysgyfaint yn gynnar a thrwy hyrwyddo gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu mewn ffordd integredig. Yn ogystal â hyn, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwaith sy’n rhaid ei gwblhau i sicrhau bod rhaglen sgrinio hygyrch a theg yn cael ei chyflwyno.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Gyflwyno-Rhaglen-Sgrinio-Canser_HIA

PDF, 479KB

Llawrlwytho PDF - Gyflwyno-Rhaglen-Sgrinio-Canser_HIA (479 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig