Gwybodaeth i Staff
Mae’n bwysig cael cysondeb ledled Cymru wrth fesur a chofnodi canlyniadau.
Am wybodaeth ychwanegol am ofynion, prosesau a thechneg mesur CMP, gweler Safonau’r Rhaglen Mesur Plant (sy’n disgrifio beth sy’n ofynnol) a’r Canllawiau (gwybodaeth ynghylch sut bydd Byrddau Iechyd yn bodloni’r safonau.)
Cynghorir staff i edrych ar eu fersiwn lleol nhw o’r canllawiau, am y gallai’r rhain gynnwys enghreifftiau o dempledi llythyrau lleol, prosesau, polisïau a chanllawiau lleol (e.e. prosesau lleol ar gyfer rhoi adborth ar ganlyniadau, copïau o dempledi llythyrau lleol, disgwyliadau olrhain, polisïau atgyfeirio ac adnoddau lleol eraill.)
Resources
-
Siart llif ar gyfer Rhaglen Mesur Plant Cymru
Y broses ar gyfer mesur plant a chwblhau ffurflen ganlyniadau’r atodlen ar gyfer Rhaglen Mesur Plant Cymru.
-
Ffurflen atodlen enghreifftiol
Mae’r ffurflen atodlen enghreifftiol hon wedi’i chynllunio er mwyn cefnogi staff sy’n rhan o gyflwyno Rhaglen Mesur Plant (CMP) Cymru
-
Ffurflen mesur plentyn heb i hynny fod wedi’i drefnu
Mae’r ffurflen hon wedi’i chynllunio i gofnodi taldra a phwysau plant nad oedd ar yr atodlen wreiddiol ond a fesurwyd yn ystod sesiwn y Rhaglen Mesur Plant.
-
Llythyr gwybodaeth enghreifftiol i rieni ar gyfer y Rhaglen Mesur Plant
Mae’r adnodd hwn yn neges swyddogol i rieni yn egluro amcanion y Rhaglen Mesur Plant, beth yw’r broses, a pham ei bod yn bwysig i’w plentyn gymryd rhan.
-
Gwybodaeth ar gyfer rieni am Raglen Mesur Plant
aflen wedi ei dylunio i roi gwybodaeth i rieni am Raglen Mesur Plant Cymru. O leiaf pythefnos cyn i’r mesuriadau gael eu cynnal, dylid rhoi copi o’r daflen hon a llythyr esboniadol i’r plentyn yn yr ysgol i’w rhoi i’w rieni. Mae’r daflen ar gael mewn wyth iaith (Cymraeg, Saesneg, Arabeg, Bengaleg, Pwylaidd, Portugaleg, Tagalog, Wrdw), yn ogystal â fersiwn ‘hawdd ei ddeall’
-
Poster Rhaglen Mesur Plant
Mae’r posteri dwyieithog hwn wedi’i gynllunio i’w arddangos yn amlwg mewn lleoliadau ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth, annog ymgysylltiad rhieni, a hysbysu cymuned yr ysgol am y broses fesur.