Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth i Rhieni

Os ydych chi’n hapus i’ch plentyn gael ei gynnwys yn y Rhaglen Mesur Plant, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os nad ydych am i’ch plentyn gymryd rhan, mae angen i chi roi gwybod i’ch nyrs ysgol cyn gynted â phosibl. Gallwch hefyd ofyn bod eich plentyn yn cael ei bwyso a’i fesur ond nad yw’r canlyniadau’n cael eu defnyddio fel rhan o’r Rhaglen Mesur Plant.

Bydd y Tîm Nyrsio Ysgol yn mesur dosbarth eich plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol. Er mwyn parchu preifatrwydd, bydd plant yn cael eu mesur yn yr ardal tawelaf sydd ar gael yn yr ysgol. Gofynnir i’ch plentyn dynnu dillad trwm fel crysau chwys ac esgidiau. Bydd eich plentyn yn sefyll ar y graddfeydd i gael eu pwyso, a mesur eu taldra.

Mae gwybodaeth eich plentyn yn gyfrinachol a bydd yn rhan o gofnod iechyd eich plentyn. Bydd llythyr gan nyrs yr ysgol yn egluro sut y gallwch weld canlyniadau eich plentyn.
Ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, anfonir y canlyniadau taldra a phwysau i Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru a fydd yn dadansoddi’r data ac yn edrych am dueddiadau ar lefel leol, ar lefel bwrdd iechyd ac yn genedlaethol i ddysgu sut mae plant yn tyfu.

Anfonir y data yn y fath fodd fel na all y staff sy’n derbyn y wybodaeth adnabod eich plentyn ac sy’n gyfrifol am ei ddadansoddi.

Mae data dienw hefyd yn cael ei gyflenwi i’r Cronfa Ddata Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel a gall ymchwilwyr eraill ei ddefnyddio hefyd. Pan fydd hyn yn digwydd mae mesurau diogelwch ar waith i atal plant ac ysgolion rhag cael eu hadnabod.

Cwestiynau Cyffredin Rhieni

A ddylwn i rannau’r canlyniadau hyn gyda fy mhlentyn?

Chi sydd i benderfynu a ddylech siarad â’ch plentyn am y canlyniadau.

Mae rhai rhieni neu ofalwyr yn hoffi trafod y canlyniadau gyda’u plentyn ac yna penderfynu gyda’i gilydd a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ddiet y teululink to an external website – opens in new window neu eu lefelau gweithgaredd corfforol, tra bod eraill yn penderfynu gwneud newidiadau bach heb ddweud wrthynt.

Nid oes ateb cywir neu anghywir ac mae eich penderfyniad chi yn dibynnu ar eich teulu a’ch plentyn.

Beth fydd yn digwydd?
  1. Os ydych yn fodlon i’ch plentyn gael ei gynnwys yn y Rhaglen Mesur Plant, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Bydd Tîm Nyrsio’r Ysgol yn mesur dosbarth eich plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol.
  2. Er mwyn parchu preifatrwydd, bydd plant yn cael eu mesur yn yr ardal tawelaf posibl o’r ysgol.
  3. Gofynnir i’ch plentyn dynnu dillad trwm fel siwmperi ac esgidiau.
  4. Bydd eich plentyn yn sefyll ar y glorian i gael eu pwyso, a bydd eu taldra yn cael ei fesur.
A yw plant eisoes wedi cael eu mesur wrth ddechrau’r ysgol?

Ydyn, mae’r gwasanaeth nyrsio ysgol yn mesur taldra a phwysau plant fel rhan o’r ‘gwiriad iechyd wrth ddechrau’r ysgol’ sydd bob amser yn cael ei wneud o fewn y ddwy flynedd gyntaf yn yr ysgol, ond hyd nes i’r Rhaglen Mesur Plant gael ei chyflwyno, roedd hyn yn cael ei wneud mewn ffyrdd gwahanol a chyda grwpiau oedran ychydig yn wahanol.

Mae’r Rhaglen Mesur Plant yn sicrhau bod y ffordd y mae plant yn cael eu pwyso a’u mesur yr un peth ledled Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i gymharu sut mae plant Cymru yn tyfu gyda phlant o’r un oed yng ngweddill y DU a rhannau o Ewrop. Bydd hefyd yn ein galluogi i ddeall y ffordd y mae pwysau plant yn newid yn ystod y blynyddoedd cynnar yn yr ysgol.

A allaf weld canlyniadau fy mhlentyn?

Gallwch ond mae’r systemau’n amrywio ar draws Cymru. Byddwch yn derbyn llythyr gan y nyrs ysgol sy’n esbonio sut y gallwch weld y canlyniadau os ydych yn dymuno.

Os ydych eisoes yn gwybod taldra a phwysau eich plentyn ac eisiau gwybod a ydynt yn bwysau iach ar gyfer eu hoed, eu taldra a’u rhyw, gallwch wirio hyn trwy ddefnyddio cyfrifwr pwysau iach . Gall eich teulu cyfan ddefnyddio’r cyfrifwr.

Dylai unrhyw un sy’n poeni y gallai eu plentyn fod o dan bwysau neu dros bwysau siarad â’u meddyg teulu, nyrs ysgol neu ymwelydd iechyd. Byddant yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth.

A fydd pawb yn gwybod taldra a phwysau fy mhlentyn?

Na. Mae gwybodaeth eich plentyn yn gyfrinachol a bydd yn rhan o gofnod iechyd eich plentyn.

Mae’r canlyniadau’n cael eu hysgrifennu ar ffurflen ac wedyn yn cael eu rhoi i mewn i’r system iechyd plentyn electronig lleol.  Dyma’r system glinigol a ddefnyddir gan nyrsys ysgol, ymwelwyr iechyd a staff clinigol yn y gymuned i gadw cofnod o wybodaeth bwysig fel canlyniadau gwiriadau datblygiad ac imiwneiddiadau arferol.

Dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gofalu am eich plentyn fydd yn gweld gwybodaeth sydd yn enwi eich plentyn; bydd y gweithwyr proffesiynol hyn yn ei ddefnyddio fel rhan o ofal clinigol arferol.

Ni fydd gwybodaeth sydd yn enwi eich plentyn yn cael ei rhannu gydag unrhyw un arall.  Nid yw byth yn cael ei rhannu gyda staff ysgol.

Sut mae canlyniadau fy mhlentyn yn cael eu defnyddio?

Ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, mae’r canlyniadau taldra a phwysau yn cael eu hanfon i Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru fydd yn dadansoddi’r data ac yn chwilio am dueddiadau ar lefel leol, ar lefel bwrdd iechyd ac yn genedlaethol er mwyn dysgu sut mae plant yn tyfu.

Anfonir y data yn y fath fodd fel na all y staff sy’n derbyn y wybodaeth ac sy’n gyfrifol am ei dadansoddi adnabod eich plentyn.

Darperir data hefyd ar gyfer SAIL a gall ymchwilwyr eraill ei ddefnyddio. Pan fydd hyn yn digwydd, mae rhagofalon wedi eu sefydlu i atal plant ac ysgolion rhag cael eu hadnabod.

A oes rhaid i fy mhlentyn gymryd rhan?

Gallwch ddewis i’ch plentyn beidio cymryd rhan yn y Rhaglen Mesur Plant. Mae’r dull o ddewis peidio cymryd rhan yn golygu os ydych yn fodlon i’ch plentyn gael ei bwyso a’i fesur ac i’r canlyniadau gael eu defnyddio ar gyfer y Rhaglen Mesur Plant, nid oes angen i chi ateb y llythyr y byddwch yn ei dderbyn yn dweud wrthych am y rhaglen.

Os ydych eisiau tynnu eich plentyn allan o’r rhaglen, bydd angen i chi hysbysu eich nyrs ysgol.

Mae pob plentyn sy’n cael ei fesur yn cyfrannu at y darlun cenedlaethol a rhanbarthol yn ymwneud â’r ffordd y mae plant yn tyfu. Po fwyaf o blant sy’n cymryd rhan, y cliriaf fydd y rhaglen.

Os hoffech drafod cymryd rhan neu beidio, cysylltwch â’ch nyrs ysgol.

Os nad wyf eisiau i ganlyniadau fy mhlentyn gael eu defnyddio ar gyfer y Rhaglen Mesur Plant, a all fy mhlentyn gael ei bwyso gan nyrs yr ysgol o hyd?

Gall, cysylltwch â nyrs yr ysgol i drefnu i’ch plentyn gael ei fesur ond i’r canlyniadau beidio cael eu defnyddio yn y Rhaglen Mesur Plant.

Taflenni gwybodaeth i rieni

Mae taflen, sydd ar gael mewn wyth o ieithoedd, wedi cael ei chreu ar gyfer rhieni a gofalwyr, fydd o gymorth iddynt drafod y Rhaglen Mesur Plant gyda’u plant ac aelodau eraill o’r teulu. Mae’r wybodaeth hefyd ar gael mewn fersiwn hawdd ei ddeall ar gyfer rhieni ag anawsterau dysgu neu sy’n cael anawsterau eraill yn darllen.