Dadansoddi gwerth, buddion a rhwystrau i gyfranogiad rhanddeiliaid a chymunedau mewn asesiadau o’r effaith ar iechyd (HIAs) yng Nghymru rhwng 2005 a 2020
Cyhoeddwyd ar: 11eg Tachwedd 2024
Awduron: Liz Green, Amber Murphy, Kathryn Ashton, Christopher Standen, Fiona Haigh
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Cynhelir Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i lywio prosesau gwneud penderfyniadau trwy asesu effeithiau iechyd a thegwch iechyd posibl rhaglen, polisi neu brosiect a datblygu ymatebion priodol i liniaru niwed a sicrhau’r buddion mwyaf posibl. Mae cyfranogiad rhanddeiliaid a chymuned yn ganolog i broses asesiadau o’r effaith.
Mae’r ymchwil hwn yn archwilio profiadau rhanddeiliaid ac aelodau o’r gymuned a gymerodd ran mewn gweithdai HIA yng Nghymru rhwng 2005 a 2020. Casglwyd data trwy holiadur ar ddiwedd pob sesiwn gweithdy HIA. Bu rhanddeiliaid a chyfranogwyr o’r gymuned o gefndiroedd amrywiol yn adrodd ar brofiad eu cyfranogiad. Mae’r dadansoddiad yn datgelu ystod o fanteision canfyddedig cymryd rhan yn y broses HIA. Roedd y manteision a nodwyd yn cynnwys y cyfle i gael eich clywed, rhwydweithio, a chipolwg ar gyfranogiad fel gwasanaeth cymunedol.
Mae’r canfyddiadau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd cyfranogiad rhanddeiliaid a’r gymuned mewn HIA, trwy safbwynt y cyfranogwyr eu hunain. Mae’r astudiaeth hon yn cyfrannu at ddealltwriaeth o gyfranogiad cymunedau a rhanddeiliaid mewn prosesau asesiadau o’r effaith. Mae hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer gwella arferion ac effaith HIA wrth ddatblygu polisi. Mae’n bosibl y gellir trosglwyddo’r canfyddiadau hyn i fathau eraill o asesiadau o’r effaith, a mathau eraill o gyfranogiad cymunedol a rhanddeiliaid.
Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.
Deunydd cyfeirio wedi'u llawrlwytho
-
Analysing-the-value-benefits-and-barriers-to-stakeholder-and-community-participation-in-health-impact-assessments-HIAs-in-Wales-from-2005-to-2020 (Saesneg yn unig)
PDF, 615 KB
Llawrlwytho PDF (Saesneg yn unig)