Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Marwolaethau Plant Medi 2014
Awduron: Dr Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Beverley Heatman, Rhaglen, Adolygu Marwolaethau Plant , Dr Lorna Price, Meddyg Dynodedig, Gwasanaeth Diogelu Plant
Cyhoeddwyd ar: 1af Medi 2014
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Dyma ail adroddiad blynyddol y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn dilyn gweithredu a gwerthusiad ffafriol y Cynllun Peilot Adolygu Marwolaethau Plant Cenedlaethol yng Nghymru (2009 i 2011). Mae’r galar yn dilyn marwolaeth plentyn yn llorio teuluoedd a chymunedau, ac yn cyffwrdd y gymdeithas ehangach. Drwy adolygu’r marwolaethau hyn yn systemataidd rydym ni’n gobeithio deall yn well pam mae plant yn marw a’r hyn y gellir ei wneud i atal y trasiediau hyn yn y dyfodol.
Bellach mae dulliau systemataidd o werthuso marwolaethau plant wedi eu sefydlu yn Seland Newydd, mewn taleithau yn Awstralia, tiriogaethau yng Nghanada ac ym mhob talaith a Bro Columbia yn Unol Daleithau America. Yn Lloegr mae byrddau lleol diogelu plant yn cynnal adolygiadau cyflym o farwolaethau unigol a chynhelir adolygiadau o’r holl farwolaethau ymhob ardal gan banelau trosolwg marwolaethau plant. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ym Mai 2014 y bydd system genedlaethol i adolygu marwolaethau plant yn cael ei sefydlu gyda grwp llywio amlasiantaeth cenedlaethol yn gyfrifol am y rhaglen ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth yr Alban.
Yng Nghymru sefydlwyd dull thematig cenedlaethol o adolygu marwolaethau plant. Mae hyn yn ddibynnol ar weithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau ar draws Cymru ac mae’n adeiladu ar yr ymateb amlasiantaethol integredig i farwolaethau annisgwyl drwy’r Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaeth Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC).
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Marwolaethau Plant Medi 2014
PDF, 607KB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Marwolaethau Plant Medi 2014 (607 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adolygiad thematig – marwolaethau plant trwy hunanladdiad tebygol 2013 i 2017 – Prif Adolygiad
Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn ymroddedig i ail-adrodd adolygiad o farwolaethau plant a phobl ifanc yng Nghymru drwy hunanladdiad yn dilyn ei adolygiad cyntaf yn 2014.
Cyhoeddwyd: 2il Ionawr 2017
-
Adolygiad thematig marwolaethau plant trwy hunanladdiad addiad tebygol 2013 i 2017
Adolygiad thematig marwolaethau plant trwy hunanladdiad tebygol 2013 i 2017, crynodeb.
Cyhoeddwyd: 3ydd Gorffennaf 2023
-
Marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed, Cymru, 2013 i 2022
Nod yr adroddiad hwn yw helpu i lywio gwaith gweithwyr proffesiynol yn y maes diogelwch dŵr yng Nghymru er mwyn atal marwolaethau cysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc […]
Cyhoeddwyd: 3ydd Gorffennaf 2023
-
Adolygiad cyflym – marwolaethau plant oherwydd brathu/ ymosod gan gŵn
Mae cŵn yn gydymaith gwerthfawr i lawer o deuluoedd. Mae eu cymdeithasoli’n gynnar â phlant ac eraill yn bwysig ar gyfer cŵn teulu. Er mai prin yw’r achosion o farwolaethau […]
Cyhoeddwyd: 1af Medi 2014
-
Ymateb cyflym i farwolaethau plant o lid yr ymennydd a chlefyd meningococol yng Nghymru
Mae’n ceisio disgrifio niferoedd yr achosion sy’n hysbys i’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant ac adnabod canllawiau/ argymhellion allweddol sy’n bodoli ar gyfer y Deyrnas Unedig a allai gyfrannu at leihau […]
Cyhoeddwyd: 22ain Hydref 2014
-
Adolygiad thematig o farwolaethau pobl ifanc yn eu harddegau mewn cerbydau modur 2013
Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn cael ei hailsefydlu yng Nghymru. Nod y rhaglen yw nodi a disgrifio patrymau ac achosion marwolaethau plant, gan gynnwys unrhyw dueddiadau, ac argymell camau […]
Cyhoeddwyd: