Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Gorffennaf 2015

Manylion:

Awduron: Dr Rosalind Reilly, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Beverley Heatman, Rheolwr Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant

Cyhoeddwyd ar: 1af Gorffennaf 2015

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Dyma drydydd adroddiad blynyddol rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Cymru. Mae’n adrodd ar dueddiadau mewn marwolaethau plant hyd at 2013 a gweithgareddau’r rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn ystod 2014-15. Mae marwolaeth plentyn yn llorio teuluoedd a chymunedau, ac yn effeithio ar y gymdeithas ehangach. Drwy adolygu’r marwolaethau hyn yn systematig gobeithiwn gael mwy o ddealltwriaeth ynghylch pam mae plant yn marw a’r hyn y gellir ei wneud i atal y trasiedïau hyn yn y dyfodol.

Mae dull systematig o werthuso marwolaethau plant wedi ei sefydlu mewn nifer o wledydd erbyn hyn, yn cynnwys Seland Newydd, Awstralia, Canada, yr Unol Daleithau a Lloegr. Mae system genedlaethol adolygu marwolaethau plant wrthi’n cael ei datblygu yn yr Alban ar hyn o bryd. Sefydlwyd y rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yng Nghymru yn 2012 yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus (2009-2011) a daeth yn rhan o weithgarwch craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2014. Sefydlwyd dull thematig cenedlaethol o ymdrin ag adolygu marwolaethau plant. Mae hyn yn dibynnu ar bartneriaethau â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau ledled Cymru ac mae’n adeiladu ar yr ymateb amlasiantaeth integredig i farwolaethau annisgwyl drwy’r Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaeth Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC).

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Gorffennaf 2015

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Gorffennaf 2015 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig