Adroddiad ar fewnwelediadau rhieni
Cyhoeddwyd ar: 8fed Ebrill 2025
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau allweddol o weithgareddau a gynlluniwyd i gasglu mewnwelediadau rhieni i brofiadau ac anghenion teuluoedd â phlant ifanc yng Nghymru.
Mae’n cynnwys adolygiad o lenyddiaeth lwyd sy’n bodoli eisoes ochr yn ochr â safbwyntiau, barn ac adborth manwl gan rieni a gasglwyd trwy broses ymgynghori enghreifftiol ac anffurfiol.
Defnyddir y term ‘rhieni’ yn gynhwysol i gyfeirio at famau, tadau, darpar rieni (pobl feichiog), neiniau a theidiau, rhieni maeth a rhieni sy’n mabwysiadu, neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Defnyddiwyd y wybodaeth a gasglwyd, fel y manylir yn yr adroddiad hwn, i lywio datblygiad y Fframwaith Gweithredu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, gan sicrhau dull mwy ymatebol a chynhwysol o ddatblygu fframwaith. Rydym hefyd yn gobeithio, fodd bynnag, y gellir defnyddio’r mewnwelediadau hyn i helpu i lywio rhaglenni gwaith eraill neu raglenni gwaith yn y dyfodol, gan helpu i sicrhau bod polisi ac arfer y blynyddoedd cynnar yn cyd-fynd ag anghenion a dewisiadau teuluoedd â phlant ifanc yng Nghymru.
Cefndir
Mae gan Gymru ers tro uchelgais polisi cryf i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, fodd bynnag, mae anghydraddoldebau’n codi’n gynnar ac yn parhau drwy gydol bywydau plant. Sefydlwyd prosiect Y Fframwaith Gweithredu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar i helpu i bontio’r bwlch rhwng yr uchelgais polisi hwn a’i weithrediad ymarferol. Mae’r Fframwaith wedi’i ddatblygu er mwyn ysgogi gwelliannau ar draws system y blynyddoedd cynnar yng Nghymru drwy nodi elfennau allweddol system effeithiol ac mae’n diffinio sut olwg sydd ar yr hyn sy’n dda i fabanod, plant a’u teuluoedd.
Nod
Nod y gwaith hwn yw dod â mewnwelediadau rhieni ynghyd er mwyn llywio ein dealltwriaeth o brofiadau teuluoedd o’r blynyddoedd cynnar, i gynnwys beth mae’r ‘cychwyn gorau mewn bywyd’ yn ei olygu i rieni a pha gymorth y maent yn teimlo sydd ei angen. Mae hefyd yn anelu at brofi elfennau allweddol y fframwaith gyda rhieni ac yn gofyn am eu hadborth a’u hawgrymiadau ar gyfeiriad arfaethedig y gwaith o ddatblygu’r fframwaith.
Defnyddiwyd canfyddiadau’r gwaith hwn i lywio’r gwaith o gynllunio, dylunio a datblygu’r Fframwaith Gweithredu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Y dechrau gorau mewn bywyd: Fframwaith gweithredu ar gyfer y blynyddoedd cynnar - Adroddiad ar fewnwelediadau rhieni
Word doc, 3MB
Llawrlwytho Word doc - Y dechrau gorau mewn bywyd: Fframwaith gweithredu ar gyfer y blynyddoedd cynnar - Adroddiad ar fewnwelediadau rhieni (3 MB)
Llawrlwytho Word doc