Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) – archwiliad manwl o wlad ar yr economi llesiant: Cymru

  • Economi llesiant
Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 12fed Gorffennaf 2024

Math o gyfeiriad: Erthygl

Crynodeb:

Mae’r ‘Archwiliad manwl o wlad ar yr economi llesiant: Cymru’ yn rhan o gyfres o archwiliadau manwl a gyhoeddwyd o dan y Fenter Economi Llesiant Ewropeaidd dan arweiniad y Swyddfa Ranbarthol WHO Ewrop ar gyfer Buddsoddi a Datblygu. Datblygir pob cyhoeddiad yn y gyfres trwy gyfuno llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd â naratifau o gyfweliadau lled-strwythuredig a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid allweddol yn y llywodraeth a sefydliadau iechyd y cyhoedd, gyda’r nod o ddangos profiadau gwlad diriaethol wrth hyrwyddo a gweithredu economïau llesiant.

Mae’r archwiliad manwl hwn yn canolbwyntio ar ddull Cymru. Mae’n rhoi cyd-destun i ymrwymiad Cymru i’r agenda economi llesiant, ac yn nodi cysyniadau a strategaethau allweddol, strwythurau a mecanweithiau llywodraethu, rôl iechyd (y cyhoedd), a dulliau o fesur a monitro cynnydd. Mae’n amlygu’r ysgogwyr a’r rhwystrau y mae Cymru wedi dod ar eu traws ar y llwybr tuag at economi llesiant.

Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.

Dolenni: