Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Gwerth cymdeithasol buddsoddi yn iechyd y cyhoedd ar draws cwrs bywyd: Adolygiad cwmpasu systematig

  • Gwerth cymdeithasol
Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 13eg Mawrth 2025

Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn

Crynodeb:

Mae’r adolygiad hwn yn mapio trosolwg o gymhwyso Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) a Dadansoddiad Cost a Budd (SCBA) mewn llenyddiaeth bresennol i nodi gwerth cymdeithasol ymyriadau iechyd y cyhoedd yn ystod cyfnodau unigol cwrs bywyd.
Amlygir pwysigrwydd cael gwerth cymdeithasol ac mae’r canlyniadau’n dangos gwerth cadarnhaol buddsoddi mewn ymyriadau iechyd y cyhoedd. Gellir defnyddio’r dystiolaeth hon fel man cychwyn gan weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol a sefydliadau sy’n edrych y tu hwnt i fesurau economaidd traddodiadol, a thuag at gipio gwerth cymdeithasol wrth fuddsoddi mewn ymyriadau ar draws cwrs bywyd. Mae briff tystiolaeth wedi’i gynhyrchu sy’n amlinellu canfyddiadau allweddol yr adolygiad cwmpasu ac yn rhoi enghreifftiau unigol o werth cymdeithasol ymyriadau ar gamau unigol o gwrs bywyd a nodwyd yn yr adolygiad cwmpasu.

Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.

Darllenwch y briff tystiolaeth sy’n berthnasol i’r adolygiad cwmpasu yma.

Dolenni: