Iechyd ym maes cynllunio: Rôl iechyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru
Awduron: Fiona Haigh, Amber Murphy, Jinhee Kim, Liz Green, Cheryl Williams
Cyhoeddwyd ar: 30ain Gorffennaf 2025
- UGAEIC
Mae’r system cynllunio yng Nghymru yn gweithredu ar dair lefel: cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol. Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn llywio’r defnydd o dir a datblygiadau ar lefel yr Awdurdod Lleol.
Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC), yn rhoi adolygiad cryno o’r modd y caiff iechyd ei gynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) ledled Cymru. Prif nod yr adroddiad hwn yw llywio dull UGAEIC o gefnogi llywodraethau lleol i integreiddio ystyriaethau iechyd mewn CDLlau. Bydd y canfyddiadau hefyd yn ychwanegu gwerth ar gyfer rhanddeiliaid eraill sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant wrth iddo amlygu cyfleoedd ar gyfer cryfhau’r broses o gynnwys iechyd mewn cynlluniau lleol. Bu i’r broses o adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ddatgelu nifer o gyfleoedd i atgyfnerthu eu rôl o ran hyrwyddo iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r CDLlau yn mynd i’r afael yn anuniongyrchol â ffactorau sy’n ymwneud ag iechyd trwy bolisïau cynllunio megis tai, trafnidiaeth a’r ansawdd amgylcheddol. Nifer bach o’r cynlluniau sy’n diffinio iechyd neu anghydraddoldebau iechyd yn benodol, ac nid oes yr un ohonynt yn cynnwys dangosyddion neu fesurau iechyd penodol. Er bod pob CDLl yn ymgorffori elfennau sy’n dylanwadu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, megis mynediad at wasanaethau ac ansawdd tai, mae’r cysylltiadau hyn â chanlyniadau iechyd ymhlyg yn aml, yn hytrach nag wedi’u nodi’n glir. Canfu ein dadansoddiad fod CDLlau eisoes yn cynnwys nifer o elfennau a all gefnogi iechyd a llesiant y boblogaeth. Trwy sicrhau bod y goblygiadau iechyd hyn yn benodol, diffinio cysyniadau iechyd allweddol yn glir, ac ymgorffori dangosyddion iechyd mesuradwy, gallai CDLlau ddatblygu eu potensial i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled cymunedau Cymru mewn modd mwy effeithiol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Iechyd ym maes Cynllunio: Rôl Iechyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru
PDF, 12MB
Llawrlwytho PDF - Iechyd ym maes Cynllunio: Rôl Iechyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru (12 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Polisïau iechyd trefol awdurdodau lleol Cymru
Ymchwiliad i ystyriaethau iechyd y cyhoedd yng Nghynlluniau Datblygu Lleol 22 awdurdod lleol Cymru.
Cyhoeddwyd: 20fed Awst 2025
-
Cynllunio Lleoedd Iach: Canllaw i awdurdodau lleol yng Nghymru i ymgorffori iechyd mewn polisi cynllunio lleol
Nod y canllawiau hyn yw cefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol trefol a gwledig yng Nghymru i ystyried, cynnwys a hyrwyddo iechyd a lles drwy Gynlluniau Datblygu Lleol […]
Cyhoeddwyd: 20fed Tachwedd 2025
-
Cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant y cyhoedd drwy Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o’r dulliau a’r canfyddiadau allweddol o adolygiad o sut mae iechyd wedi’i gynnwys mewn astudiaethau achos Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru ac effeithiolrwydd Cynlluniau […]
Cyhoeddwyd: 6ed Tachwedd 2025
-
Polisïau iechyd trefol awdurdodau parciau cenedlaethol Cymru
Ymchwiliad i ystyriaethau iechyd y cyhoedd yng Nghynlluniau Datblygu Lleol tair awdurdod parc cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddwyd: 20fed Awst 2025
-
Ein cynllun datgarboneiddio a chynaliadwyedd 2024 i 2026
Mae hyn unwaith eto wedi amlygu’r gyd-ddibyniaeth ddofn rhwng llesiant poblogaeth, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Crynodeb gweithredol Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cydnabod […]
Cyhoeddwyd:
-
Cynllunio ar gyfer iechyd a lles gwell yng Nghymru
Briff ar integreiddio cynllunio ac iechyd y cyhoedd ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio mewn awdurdodau cynllunio lleol a sefydliadau iechyd yng Nghymru.
Cyhoeddwyd: