Pecyn Cymorth Fframwaith Iechyd Cyhoeddus Gofal Iechyd
Mae’r pecyn cymorth hwn yn dwyn ynghyd nifer o offer a fframweithiau y gellid eu defnyddio ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad i gefnogi lleoliadau, systemau a phartneriaethau gofal iechyd i asesu ac optimeiddio eu gwasanaethau gyda lens poblogaeth. Mae’r pecyn cymorth yn adnodd i helpu i nodi tueddiadau, anghenion ac anghydraddoldebau o fewn cymunedau, ac i gefnogi cynllunio a chyflawni effeithiol, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau. Ni fwriedir i’r offer mae’n eu cynnwys fod yn rhagnodol ond i weithredu fel canllaw i alluogi gwneud penderfyniadau mewn ffordd systematig.
Asesiadau anghenion wrth gynllunio a chyflawni
Mae asesu anghenion gofal iechyd y boblogaeth yn hanfodol ar gyfer nodi tueddiadau iechyd, gwahaniaethau a heriau sy’n dod i’r amlwg. Mae’n galluogi dyrannu adnoddau yn effeithiol, gan sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu’r anghenion mwyaf brys. Mae’r broses hon yn llywio penderfyniadau polisi, yn helpu i optimeiddio llwybrau gofal, ac yn y pen draw yn cefnogi darparu gofal iechyd teg, effeithlon o ansawdd uchel.
Blaenoriaethu wrth wneud penderfyniadau
Mae gwneud penderfyniadau mewn gofal iechyd yn gofyn am flaenoriaethu rhwng galwadau lluosog a blaenoriaethau sy’n cystadlu, o ystyried twf poblogaeth; poblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd mewn cyflyrau hirdymor; datblygiadau technolegol, a disgwyliadau gan y cyhoedd, yng nghyd-destun natur gyfyngedig adnoddau. Mae gosod blaenoriaethau tryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn helpu i ddyrannu adnoddau lle gallant gael yr effaith fwyaf arwyddocaol, gan fynd i’r afael ag anghenion brys, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a gwella canlyniadau cyffredinol. Mae’n cefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn sicrhau bod y system yn parhau i fod yn deg ac yn gynaliadwy, gan ddiwallu anghenion amrywiol y boblogaeth.
Adolygiadau llwybrau gwasanaeth a gofal
Mae cynnal adolygiadau o wasanaethau gofal iechyd yn hanfodol i sicrhau eu bod yn ddiogel, yn effeithiol ac yn ymatebol i anghenion esblygol y boblogaeth. Mae adolygiadau rheolaidd yn helpu i nodi bylchau mewn darparu gwasanaethau, aneffeithlonrwydd, neu feysydd lle efallai nad yw gofal yn bodloni safonau sefydledig neu arferion gorau. Maent hefyd yn cynnig cyfle i asesu a yw llwybrau presennol wedi’u hoptimeiddio ar gyfer canlyniadau cleifion, gan sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal amserol, priodol a chydgysylltiedig. Gall adolygiadau ddatgelu gwahaniaethau mewn mynediad at ofal, tynnu sylw at feysydd i ailddyrannu adnoddau, a galluogi cyfleoedd i wella trwy integreiddio tystiolaeth, technolegau ac arloesiadau newydd mewn ymarfer.
Gwerthuso a dysgu
Mae gwerthuso a dysgu yn agweddau allweddol ar y cylch gwella ansawdd o fewn gofal iechyd ac maent yn ffactorau pwysig wrth gynllunio a darparu gwasanaethau effeithlon, seiliedig ar dystiolaeth, o ansawdd uchel. Gwerthuso yw’r ffactor canolog sy’n cysylltu ymchwil â darparu gofal iechyd ymarferol.
Dull iechyd cyhoeddus o ofal sylfaenol a chymunedol erbyn 2035 yng Nghymru
Gofal sylfaenol a chymunedol yw lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn profi’r system gofal iechyd am y tro cyntaf—trwy bractisau meddygon teulu lleol, fferyllfeydd, deintyddion, optegwyr a thimau iechyd cymunedol. Mae’r gwasanaethau hyn yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf i unigolion ac yn chwarae rhan hanfodol wrth atal salwch, rheoli cyflyrau hirdymor, a hyrwyddo llesiant. Fodd bynnag, er gwaethaf eu pwysigrwydd, maent yn parhau i fod dan bwysau gan alw cynyddol, prinder gweithlu, ac adnoddau cyfyngedig.
Mae’r darn hwn o waith yn nodi gweledigaeth ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru erbyn 2035. Bydd yn ymgorffori egwyddorion megis atal, tegwch, cynaliadwyedd, a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata, i adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio’n dda a chreu Cymru decach, wyrddach ac iachach. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol ac yn cryfhau gweithredu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru, gan sicrhau bod gwasanaethau’n fwy cyson, gwydn ac ymatebol i anghenion sy’n newid.
Mae Cymru yn wynebu heriau sylweddol—o boblogaeth sy’n heneiddio ac anghydraddoldebau iechyd i newid hinsawdd a phwysau ariannol. Eto, mae gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol mewn sefyllfa unigryw i arwain newid ar y lefel leol. Trwy ganolbwyntio ar atal a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol salwch, mae’r prosiect hwn yn helpu i lunio map trywydd tuag at system fwy cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – un sy’n anelu at gefnogi bywydau iachach a chymunedau cryfach ar gyfer cenedlaethau i ddod.
-
Cyfraniad iechyd y cyhoedd at ofal iechyd gwell
Fframwaith iechyd cyhoeddus gofal iechyd i Gymru
-
Cyfraniad iechyd y cyhoedd at ofal iechyd gwell – pecyn cyflwyniad
Fframwaith iechyd cyhoeddus gofal iechyd i Gymru – pecyn sleidiau