Ynglŷn â’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol
Y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol (NSS) yn dîm o arbenigwyr sy’n darparu arweiniad strategol, cydlynus er mwyn gwella diogelu ar draws y GIG yng Nghymru.
Maent yn atebol i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn gyfrifol am gyflawni allbynnau a darparu cyngor proffesiynol arbenigol annibynnol. Yr NSS yn darparu ffocws strategol ac arweiniad proffesiynol i GIG Cymru er mwyn hybu lles plant (gan gynnwys plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol) ac oedolion sy’n wynebu risg, ac er mwyn hybu’r gwaith o’u diogelu.
Y gwasanaeth
Mae gweithwyr proffesiynol penodedig yn darparu ffynhonnell o gyngor arbenigol annibynnol ynghylch iechyd o safbwynt ‘Cymru gyfan’. Mae gan aelodau’r tîm sgiliau penodol sy’n ffynhonnell o arbenigedd annibynnol ym maes iechyd wrth gynnal adolygiadau achos o gamdriniaeth ac esgeulustod difrifol yn ogystal â hunanladdiad ymhlith plant.
Mae’r tîm proffesiynol yn cynnwys meddygon a nyrsys penodedig, ac arweinydd cenedlaethol ar ran meddygon teulu, sydd ag arbenigedd a phrofiad sylweddol ym maes diogelu. Cânt eu cefnogi gan Reolwr Rhaglen a Swyddogion Cymorth Busnes.
Sut yr ydym yn gweithio
Mae’r tîm yn cydweithio â rhanddeiliaid megis Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Diogelu Rhanbarthol, a’i nod yw:
- Sicrhau bod diogelu’n flaenoriaeth yn agenda atal y GIG;
- Gwella trefniadau integreiddio a chydweithio gan GIG Cymru a’r asiantaethau sy’n bartneriaid iddo;
- Gwella a chynyddu effeithiolrwydd ymarfer diogelu;
- Dylanwadu ar flaenoriaethau diogelu cenedlaethol GIG Cymru a’u gwella.
Mae gweithwyr proffesiynol penodedig yn darparu ffynhonnell o gyngor arbenigol annibynnol ynghylch iechyd o safbwynt ‘Cymru gyfan’. Mae gan aelodau’r tîm sgiliau penodol sy’n ffynhonnell o arbenigedd annibynnol ym maes iechyd wrth gynnal adolygiadau achos o gamdriniaeth ac esgeulustod difrifol yn ogystal â hunanladdiad ymhlith plant, ac mae’n cyfrannu yn rheolaidd i Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion.
Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru
Mae’r Rhwydwaith, a lansiwyd yn 2012 ac a gaiff ei arwain o safbwynt proffesiynol gan y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), yn bont hanfodol rhwng strategaethau a threfniadau lleol a datblygiadau polisi cenedlaethol er mwyn cynorthwyo Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd GIG Cymru i gyflawni eu cyfrifoldebau o ran diogelu pobl.
Mae’r strwythur yn hwyluso amgylchedd cydweithredol i adnabod problemau cyffredin, datblygu atebion a chyrraedd safonau gofal iechyd er mwyn diogelu’n well unrhyw blant ac oedolion sy’n wynebu risg. Yn ganolog i’r strwythur y mae gwerthuso effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd trefniadau ac ymyriadau diogelu, a lleihau amrywiadau mewn ymarfer ar draws y GIG.