Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Termau ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru

Manylion:

Awduron: Dr Simon Newstead, Professor Carolyn Wallace, Bethan Jenkins, Amber Lavans, Dr Amrita Jesurasa

Cyhoeddwyd ar: 27ain Rhagfyr 2023

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Cefndir

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn derm ambarael sy’n disgrifio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gysylltu pobl ag asedau cymunedol. Gall helpu i rymuso unigolion i gydnabod eu hanghenion, eu cyfderau a’u hasedau personol a chysylltu â’u cymunedau eu hunain i gael cymorth gyda’u llesiant.

Drwy ymgysylltu â’r broses hon, gellir mynd i’r afael ag ystod eang o ffactorau sy’n effeithio ar lesiant, megis unigrwydd, gweithgaredd corfforol neu bryderon ariannol, sy’n rhoi mwy o reolaeth i’r unigolyn dros ei amgylchiadau. Er gwaethaf y defnydd o’r term ‘presgripsiynu’, mae model presgripsiynu Cymru yn rhoi’r gorau i ddilyn dull meddygol ac yn hytrach yn mabwysiadwyd dull ‘does dim drws anghywir’, lle mae’r ffynonellau atgyfeirio yn rhai traws-sector nad ydynt wedi’u cyfyngu i ofal iechyd/gofal sylfaenol.

Yr angen am restr termau ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol

Mae presgripsiynu cymdeithasol wedi tyfu a datblygu dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, bu diffyg safoni a chysondeb yn yr eirfa sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol. Mae’r diffyg safoni ac amrywiaeth yn yr eirfa wedi arwain at ddryswch posibl ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol ac yn y gweithlu sy’n cyflenwi neu sy’n dod i gysylltiad â phresgripsiynu cymdeithasol, gan amharu ar gyfathrebu rhwng sectorau, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.

Mewn ymateb i hyn, datblygwyd rhestr termau i helpu i safoni’r iaith sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol. Gallai defnyddio’r rhestr termau wella eglurder a chyfathrebu, ynghylch presgripsiynu cymdeithasol fel ymyrraeth, ar gyfer gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd. Y gobaith yw y bydd y rhestr yn datblygu i fod yn adnodd cyfeirio defnyddiol i’r gweithlu sy’n dod i gysylltiad â phresgripsiynu cymdeithasol ac yn ei gefnogi yng Nghymru. Mae’r rhestr yn adlewyrchu’r iaith sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru adeg ei chyhoeddi. Mae’n debygol y bydd angen diweddaru’r rhestr yn y dyfodol, wrth i bresgripsiynu cymdeithasol a’r iaith gysylltiedig esblygu.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Rhestr termau ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Rhestr termau ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru (2 MB)

Llawrlwytho PDF

Fersiynau eraill:

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig