Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy ar gyfer Pobl Cymru

Manylion:

Awduron: Mariana Dyakova, Teri Knight, Sian Price

Cyhoeddwyd ar: 14eg Gorffennaf 2016

  • Buddsoddi cynaliadwy

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth arbenigol i gefnogi camau gweithredu ar atal salwch a lleihau anghydraddoldebau, a hynny er mwyn sicrhau economi gynaliadwy, cymdeithas ffyniannus a’r iechyd a’r lles gorau posibl i bobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol. Mae’n nodi tri maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ataliol gan gynnwys adeiladu gwytnwch ar draws cwrs bywyd a lleoliadau, mynd i’r afael ag ymddygiadau niweidiol er mwyn diogelu iechyd, a mynd i’r afael â phenderfynyddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach iechyd.

Mae’r adroddiad yn cynnwys tair rhan a gyhoeddwyd ar wahân: crynodeb gweithredol, tystiolaeth ategol, a ffeithluniau sy’n canolbwyntio ar heriau iechyd allweddol i Gymru ac awgrymiadau o ran atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Gallwch lawrlwytho holl allbynnau cysylltiedig yr adroddiad isod:

Gweler y ffeithlun sy’n ymwneud â’r adroddiad hwn.

Darllenwch y dystiolaeth ategol sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Making-a-Difference-Investing-in-Sustainable-Health-and-Well-being-for-the-People-of-Wales_Report

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Making-a-Difference-Investing-in-Sustainable-Health-and-Well-being-for-the-People-of-Wales_Report (2 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig