Neidio i'r cynnwys

Sut i gyflwyno’r achos dros fuddsoddi cynaliadwy mewn tegwch iechyd a llesiant: Canllaw ymarferol – crynodeb gweithredol

Dyma grynodeb o’r canllaw ymarferol ‘Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant’. Mae’r canllaw hwn yn amlinellu pedwar cam allweddol o greu, cyfieithu a chyfathrebu tystiolaeth economeg iechyd y cyhoedd yn bolisi ac ymarfer. Ei nod yw atal dadfuddsoddiad mewn iechyd, cynyddu buddsoddiad mewn atal (iechyd y cyhoedd), a buddsoddiad traws-sector prif ffrwd i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a chyfiawnder, gan yrru datblygiad cynaliadwy er budd pawb.

Darllenwch y canllaw ymarferol sy’n cyd-fynd â’r crynodeb gweithredol hwn.