Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol
Mae Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol yn dod â thystiolaeth fyd-eang ac arloesedd i Gymru – gan helpu i lunio polisi, cryfhau gofal iechyd, a gwella canlyniadau iechyd cyhoeddus.
Cafodd y gyfres ei lansio yn ystod pandemig COVID-19 i ddechrau, dan yr enw Sganio’r Gorwelion Rhyngwladol , i gefnogi ymateb deinamig a chynlluniau adfer yng Nghymru. Ers 2022, mae ei gwmpas wedi ehangu i gynnwys ystod eang o bynciau iechyd cyhoeddus sy’n dod i’r amlwg ac sydd angen blaenoriaeth, sy’n cael eu comisiynu gan randdeiliaid allweddol megis Llywodraeth Cymru a chyrff gweithredol y GIG.
Pam mae hyn yn bwysig?
- Dysgu byd-eang a diogelwch iechyd
Mae heriau iechyd yn gysylltiedig a’i gilydd. Rydym yn darparu tystiolaeth ac arloesedd rhyngwladol i helpu Cymru i ymateb yn rhagweithiol. - Polisi ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
Crynodebau o dystiolaeth fyd-eang ac arloesiadau o wledydd unigol ar draws meysydd gwella iechyd, diogelu iechyd, ac iechyd cyhoeddus gofal iechyd. - Effaith strategol
Cysylltu dysgu byd-eang â blaenoriaethau hirdymor Cymru – cryfhau cydweithrediad, cefnogi strategaethau cenedlaethol, a hyrwyddo cyfnewidiad gwybodaeth ledled Cymru a thu hwnt.
Beth mae Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol yn ei gynnig
Cyfnewid gwybodaeth yn fyd-eang
Cysylltu Cymru â sgyrsiau iechyd cyhoeddus byd-eang i feithrin dysgu a chydweithrediad ar draws ffiniau.
Adrodd adweithiol
Adroddiadau cyflym ar faterion iechyd cyhoeddus sy’n dod i’r amlwg neu mewn ymateb i geisiadau gan randdeiliaid – cyflwyno tystiolaeth fyd-eang amserol pan fo’r angen ar ei fwyaf.
Adroddiadau gwybodaeth chwarterol
Crynodebau rheolaidd o arloesiadau ac arferion gorau iechyd cyhoeddus byd-eang.
Sganio gorwelion blynyddol
Nodi arwyddion o newid a allai lunio tueddiadau iechyd yn y dyfodol.
Gwybodaeth strategol
Alinio gwybodaeth â blaenoriaethau strategol Cymru, gan gefnogi nodau hirdymor megis cydraddoldeb iechyd, llesiant a datblygu cynaliadwy.
Trosi tystiolaeth
Troi tystiolaeth ryngwladol yn bolisi ac arfer lleol gweithredadwy.
Darllen adroddiadau Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol
Dysgwch am y wybodaeth ddiweddaraf sy’n siapio iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Oes gennych chi syniad am adroddiad? E-bostiwch [email protected].
Mae Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth fyd-eang ar gyfer system iechyd cyhoeddus Cymru, boed hynny’n ymwneud ag ymateb i argyfwng iechyd sy’n symud yn gyflym neu gefnogi gwaith cynllunio hirdymor.