Edrych ar degwch iechyd o safbwynt economeg, polisi, a heriau iechyd byd-eang - Economeg iechyd
Mae miliynau o bobl ledled y byd yn wynebu mynediad anghyfartal at ofal iechyd oherwydd caledi economaidd, bylchau polisi, a bregusrwydd systemig. Mae tegwch iechyd yn golygu mwy na dim ond triniaeth gyfartal, mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gyrraedd eu potensial iechyd llawn, waeth ble maent yn byw na pha adnoddau sydd ganddynt. Trwy edrych ar ble mae economeg iechyd, polisi cyhoeddus, a gwahaniaethau byd-eang yn cwrdd, gallwn wella ein dealltwriaeth o’r achosion sylfaenol sy’n golygu nad yw anghenion iechyd yn cael eu bodloni, a cheisio datrysiadau ystyrlon.
Mae anghydraddoldebau iechyd yn arwain at gostau cymdeithasol ac economaidd sylweddol i unigolion a chymdeithasau. Yng Nghymru, mae’r Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol, ac mae datrys anghydraddoldebau yn cael blaenoriaeth yn y broses o wneud penderfyniadau.
Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd yn amcan polisi pwysig o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol. Gall dadl economaidd ychwanegu pwysau at yr amcan o leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae economeg iechyd yn ymwneud â defnyddio adnoddau yn effeithlon er mwyn gwella iechyd y boblogaeth. Mae’n canolbwyntio ar gydraddoldeb, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, gwerthoedd ac ymddygiadau wrth ddyrannu adnoddau gofal iechyd er mwyn bodloni anghenion iechyd y boblogaeth dan sylw.
Mae gwerthuso economaidd yn cymharu costau a chanlyniadau camau gweithredu amgen ac yn darparu tystiolaeth ar gyfer llywio penderfyniadau ynghylch sut i ddyrannu darpariaeth gofal iechyd cyfyngedig (Saesneg yn unig). Rhaid i benderfyniadau ar ddyrannu adnoddau sicrhau canlyniadau effeithiol a theg yn ogystal â gwerth am arian.
Mae tystiolaeth economaidd gynyddol yn sail i ymyriadau iechyd cyhoeddus (Saesneg yn unig). Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymyriadau iechyd cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn arbed costau sylweddol, a bod toriadau i gyllidebau iechyd cyhoeddus mewn gwledydd incwm uchel yn debygol o greu costau ychwanegol gwerth biliynau o bunnoedd i wasanaethau iechyd a’r economi yn ehangach.
Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud ag economeg iechyd.
Yn ôl i’r dudalen bwnc tegwch iechyd
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Ionawr 2026