Lleihau ein hôl troed carbon
Mae’n rhaid i ni weithredu nawr i fynd i’r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd, ac mae o fewn ein gallu i wneud. Trwy leihau allyriadau, gallwn gyfrannu at arafu newid hinsawdd ac osgoi ei ganlyniadau gwaethaf.
I ni, mae hyn yn golygu bod yn sefydliad sero net erbyn 2030. Mae sero net yn golygu cydbwyso ein allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy dynnu’r un faint o nwyon o’r atmosffer, gan olygu na fyddwn yn ychwanegu at gyfanswm y nwyon hyn mwyach.
Rydym yn gweithredu nawr i leihau ein hallyriadau:
- Rydym yn gwella effeithlonrwydd ein hadeiladau presennol ac yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
- Rydym yn darparu cyfleusterau sy’n ei gwneud hi’n haws i staff ddewis teithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus ac yn annog gweithio hyblyg i leihau teithiau car diangen.
- Rydym hefyd yn ei gwneud yn haws i’n staff wefru cerbydau trydan, yn ogystal â thrydaneiddio ein fflyd ein hunain o gerbydau.
- Rydym yn gweithio gyda’n labordai Microbioleg i’w helpu i leihau faint o blastigau untro y maent yn eu defnyddio ac i ddatblygu arferion mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.
Cynlluniau
Mae gan GIG Cymru gynllun i leihau allyriadau’r sector iechyd ar draws ein stadau, ein defnydd o ynni, ein trafnidiaeth a’n cadwyni cyflenwi. Mae Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dod â’n camau gweithredu at ei gilydd ac yn helpu i fonitro’r cynnydd yr ydym yn ei wneud.
Mae Siarter Teithio Llesol Cymru yn hyrwyddo teithio cynaliadwy ac iach i wella iechyd y cyhoedd, gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon. Mae’n annog sefydliadau i gefnogi eu staff a’u hymwelwyr i wneud dewisiadau teithio llesol, e.e. cerdded a beicio, yn ogystal â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau trydan. Mae siarterau ar waith ym mhob rhanbarth o Gymru, gyda dros 70 o sefydliadau yn cofrestru gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd a chynghorau lleol.