Neidio i'r cynnwys

Partneriaethau o fewn y DU ac yn rhyngwladol ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru

Er mwyn rhannu arbenigedd, profiad a sgiliau Cymru yn rhyngwladol, ac i ddod â dysg yn ôl i Gymru, mae’r Tîm Iechyd Rhyngwladol yn cysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Partneriaid rhyngwladol

Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig)

Mae gan Gymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd hanes o gydweithio a’i gilydd, gan gryfhau gwybodaeth, gallu a chydweithrediad rhyngwladol ar gyfer gwella lles a thegwch iechyd, i atal a mynd i’r afael â bygythiadau i bobl a chymdeithas, ac i gyflawni twf cynhwysol cynaliadwy.

EuroHealthNet (Saesneg yn unig)

Mae EuroHealthNet yn bartneriaeth nid-er-elw o sefydliadau, asiantaethau a chyrff statudol sy’n gweithio er mwyn cyfrannu at greu Ewrop iachach trwy hyrwyddo iechyd a thegwch iechyd rhwng ac o fewn gwledydd Ewrop. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn aelod o EuroHealthNet, ac mae ganddynt sedd ar ei Fwrdd Gweithredol.

International Association of National Public Health Institutes (Saesneg yn unig)

Mae IANPHI (International Association of National Public Health Institutes) yn cysylltu ac yn cryfhau’r asiantaethau’r llywodraeth sy’n gyfrifol am iechyd y cyhoedd. Mae IANPHI yn gwella iechyd y byd trwy ddefnyddio profiad ac arbenigedd ei aelod-sefydliadau i adeiladu systemau iechyd cyhoeddus cadarn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn aelod llawn o IANPHI ac, tan fis Mai 2021, roedd yn Gadeirydd Rhwydwaith Rhanbarthol Ewropeaidd IANPHI.

Partneriaid yn y DU

Partnerships for Global Health (yn ffurfiol THET) (Saesneg yn unig)

Mae THET yn sefydliad iechyd byd-eang arbenigol sy’n addysgu, hyfforddi a chefnogi gweithwyr iechyd trwy bartneriaethau iechyd byd-eang, gan gryfhau systemau iechyd a galluogi pobl mewn gwledydd incwm isel a chanolig i gael mynediad at ofal iechyd hanfodol.

Faculty of Public Health (Saesneg yn unig)

Rydym yn cydweithio’n agos â Chyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU, gan gymryd rhan yn ei Bwyllgor Iechyd Byd-eang a Grwpiau Diddordeb Arbennig (SIGs) ar Ewrop ac eraill.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Ryngwladol Cymru yn hyrwyddo ac yn amddiffyn buddiannau Cymru yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol. Gan weithio gyda phartneriaid yng Nghymru a thu hwnt, rydym yn ymgymryd â gweithgareddau i godi proffil a dylanwad Cymru fel lle i fyw, i ymweld ag o, i astudio ac i wneud busnes.

Hub Cymru Africa

Mae Hub Cymru Africa yn gydweithrediad sy’n cydgasglu gwaith Cysylltiadau Cymunedol Cymru Affrica, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Panel Cynghori’r Is-Sahara, Masnach Deg Cymru a Hwb Datblygu Rhyngwladol Cymru. Mae Hub Cymru Africa yn cael ei letya gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru.