Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

SACU: Treialon ac astudiaethau clinigol

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 26ain Chwefror 2021

Mae SACU yn rhan o nifer o dreialon ac astudiaethau clinigol, gan gynnwys â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Southampton, Uned Treialon De-ddwyrain Cymru a King’s College, Llundain.

Rhestrir y treialon ac astudiaethau clinigol y mae SACU yn rhan ohonynt isod:

Diagnosio Heintiau Llwybr Wrinol yn yr Ifanc (DUTY)

Astudiaeth ledled y DU (Saesneg yn unig) i adnabod plant cyn oed ysgol y dylid cael sampl wrin ganddynt; asesu a yw stribedi trochi urinalysis yn cynnig gwybodaeth ddiagnostig ychwanegol; a modelu cost-effeithiolrwydd yr algorithmau.

Gwnaeth SACU y gwaith labordy canolog, gan brosesu >6000 o samplau wrin yn defnyddio protocol ymchwil arbenigol. Mae’r astudiaeth yn y cyfnod dadansoddi data ar hyn o bryd, ac mae nifer o lawysgrifau wedi’u cyhoeddi neu ar y gweill.

Probiotegau i drin dolur rhydd sy’n gysylltiedig â gwrthfiotigau (PAAD)

Astudiaeth ledled Cymru i bennu llinell sylfaen o ddigwyddedd organebau C. difficile sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau mewn cartrefi gofal; asesu probiotegau ar bresgripsiynau gwrthficrobaidd.

Gwnaeth SACU y gwaith labordy canolog, gan ganfod digwydded organebau C. difficile sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau. Mae’r astudiaeth yn y cyfnod dadansoddi data ar hyn o bryd, ac mae nifer o lawysgrifau wedi’u cyhoeddi neu ar y gweill.

Heintiau Llif Gwaed – Canolbwyntio ar Ganlyniad (BSIFOO)

Astudiaeth ledled y DU sy’n asesu effaith diagnosteg gyflym yn y labordy microbioleg ar ganlyniad cleifion â heintiau llif gwaed (Saesneg yn unig).

Roedd SACU yn un o’r chwe labordy a gymrodd ran, gan nodi organebau yn uniongyrchol o feithriniadau gwaed cadarnhaol gan ddefnyddio’r offeryn MALDI-ToF MS.

Arolwg Cario Bacteria Meningococol (MenCar4)

Astudiaeth ledled y DU sy’n pennu pa mor gyffredin yw N. meningitidis ymhlith pobl ifanc (Saesneg yn unig).

Cymerodd SACU ran yn yr astudiaeth, gan ganfod N. meningitidis mewn >3000 o swabiau gwddf. Mae’r astudiaeth ar hyn o bryd yn y cyfnod dadansoddi data.

Ymwrthedd mewn Organebau Gram Negyddol – Astudio Strategaethau Ymyrraeth (R-GNOSIS)

Mae R-GNOSIS yn gydweithrediad mawr ledled Ewrop sy’n canolbwyntio ar organebau Gram negyddol sy’n gwrthsefyll mwy nag un cyffur. Mae wedi’i rannu’n wahanol becynnau gwaith (WP):

WP2: Profion Pwynt Gofal ar gyfer Haint y Llwybr Wrinol mewn Gofal Sylfaenol (POETIC)

Gwerthuso prawf pwynt gofal (POCT) i’w ddefnyddio mewn oedolion benywaidd mewn gofal sylfaenol pan amheuir haint y llwybr wrinol heb gymhlethdod. Bydd y POCT yn rhoi diagnosis o haint bacteriol i glinigwyr ar y pwynt gofal, ynghyd â phroffiliau ymwrthedd unrhyw bathogen a nodwyd i’r gwrthfiotigau a ddefnyddir amlaf i drin haint y llwybr wrinol mewn gofal sylfaenol, a hynny o fewn 24 awr. Bydd yr astudiaeth yn penderfynu a yw’r wybodaeth hon yn cynorthwyo clinigwyr i ragnodi gwrthficrobau yn fwy priodol.

Gwnaeth SACU y gwaith labordy canolog ar gyfer y labordai GIG y DU a oedd yn cymryd rhan, gan brosesu ~1000 o samplau wrin ac ysgarthion; adnabod a phrofi sensitifrwydd bacteria pathogenig. Cynhaliwyd dadansoddiadau o’r prawf pwynt gofal o’i gymharu â meddygon teulu hefyd. Mae’r astudiaeth yn y cyfnod dadansoddi data ar hyn o bryd, ac mae rhai papurau wedi’u cyhoeddi.

WP6 Effeithiau Ecolegol Strategaethau Cael Gwared ar Lwyth Bacteriol mewn Gofal Dwys

Gwerthuso strategaethau cael gwared ar lwyth bacteriol o’r perfedd ar gyfer cleifion Gofal Dwys; gan ganolbwyntio ar facteria gram negyddol sydd ag ymwrthedd i fwy nag un cyffur. Nod yr astudiaeth yw cymharu strategaethau cael gwared ar lwyth bacteriol yn y perfedd gan ganolbwyntio ar facteria gram negyddol sydd ag ymwrthedd i fwy nag un cyffur.

Mae SACU yn labordy canolog ar gyfer ITU Caerdydd, gan brosesu samplau ysgarthol ac anadlol ac adnabod organebau sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau. Mae’r astudiaeth yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. 

Astudiaeth PACE

Mae PACE yn astudiaeth dau gam – cynllun peilot wedi’i lleoli yng Nghymru ac astudiaeth fwy ledled y DU.

SACU yw’r labordy canolog ar gyfer yr astudiaeth hon, gan brosesu >750 o samplau swab anadlol a gwddf. Bydd gwaith adnabod bacteria pathogenig a chanfod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael ei wneud. Mae’r astudiaeth yn y cyfnod peilot ar hyn o bryd.

Defnyddio probiotig a fitamin D i leihau heintiau mewn defnyddwyr gwasanaethau cartrefi gofal (PRINCESS)

Defnyddio probiotig a fitamin D i leihau heintiau mewn defnyddwyr gwasanaethau cartrefi gofal (PRINCESS): Nod yr astudiaeth hon ledled y DU yw gwerthuso effaith probiotegau a gymerir trwy’r geg yn ddyddiol mewn preswylwyr cartrefi gofal, naill ai gyda dos uchel o Fitamin D3 (Vit-D) neu ddos rheoli Vit-D, ar nifer cronnol y dyddiau ar bresgripsiwn gwrthfiotig (CAPD) ar gyfer Clefydau Heintus Cyffredin a’r llwyth bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau.

Bydd SACU yn gweithio fel labordy canolog, gan brosesu carthion a phoer, canfod rhywogaethau C. difficile, Candida a gweld pa mor gyffredin yw’r organebau sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau. Bydd lefelau’r bacteria probiotig mewn ysgarthion hefyd yn cael eu pennu.

Disgwylir i’r astudiaeth hon ddechrau yn Hydref 2015.

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig