Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad Arolwg Cyffredinolrwydd Pwynt (PPS) ar gyfer Cymru 2017 – Cyfleusterau gofal hirdymor

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Mawrth 2018

  • Bwrdd Iechyd
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r tîm Rhaglen Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi (HARP) wedi cynnal sawl arolwg cyffredinolrwydd pwynt (PPS) cenedlaethol mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys mewn ysbytai a chyfleusterau gofal hirdymor (cartrefi gofal / nyrsio). Mae’r data y mae tîm HARP yn ei ddadansoddi yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru ac â byrddau iechyd Cymru. Mae’r data yn tynnu sylw at y mesurau sydd angen cael eu cyflwyno neu eu gwella er mwyn helpu i atal datblygiad a lledaeniad heintiau, a pha gynlluniau a pholisïau ddylai fod ar waith er mwyn gwneud y defnydd gorau o wrthfiotigau.

Caiff data eu casglu ar holl gleifion yr ysbyty a phreswylwyr sydd mewn cartrefi gofal / nyrsio ar ddiwrnod yr arolwg. Mae’r data’n cynnwys: faint o bobl sydd yn yr ysbyty neu’n preswylio mewn cartref, manylion demograffig, canran y bobl sydd â haint a pha fath o haint, faint o bobl sy’n cymryd gwrthfiotigau ac ar gyfer beth mae’r gwrthfiotigau wedi’u rhagnodi. Mae gwybodaeth arall yn cael ei gasglu hefyd, e.e. y defnydd o ddyfeisiau meddygol a llesiant cyffredinol unigolion.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Arolwg Cyffredinolrwydd Pwynt (PPS) ar gyfer Cymru 2017 - Cyfleusterau gofal hirdymor

PDF, 883KB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Arolwg Cyffredinolrwydd Pwynt (PPS) ar gyfer Cymru 2017 - Cyfleusterau gofal hirdymor (883 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig