Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad Arolwg Cyffredinolrwydd Pwynt (PPS) ar gyfer Cymru 2023 – Cyfleusterau gofal hirdymor

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Gorffennaf 2024

  • Bwrdd Iechyd
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r tîm Rhaglen Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi (HARP) wedi cynnal sawl arolwg cyffredinolrwydd pwynt (PPS) cenedlaethol mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys mewn ysbytai a chyfleusterau gofal hirdymor (cartrefi gofal / nyrsio). Mae’r data y mae tîm HARP yn ei ddadansoddi yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru ac â byrddau iechyd Cymru. Mae’r data yn tynnu sylw at y mesurau sydd angen cael eu cyflwyno neu eu gwella er mwyn helpu i atal datblygiad a lledaeniad heintiau, a pha gynlluniau a pholisïau ddylai fod ar waith er mwyn gwneud y defnydd gorau o wrthfiotigau.

Caiff data eu casglu ar holl gleifion yr ysbyty a phreswylwyr sydd mewn cartrefi gofal / nyrsio ar ddiwrnod yr arolwg. Mae’r data’n cynnwys: faint o bobl sydd yn yr ysbyty neu’n preswylio mewn cartref, manylion demograffig, canran y bobl sydd â haint a pha fath o haint, faint o bobl sy’n cymryd gwrthfiotigau ac ar gyfer beth mae’r gwrthfiotigau wedi’u rhagnodi. Mae gwybodaeth arall yn cael ei gasglu hefyd, e.e. y defnydd o ddyfeisiau meddygol a llesiant cyffredinol unigolion.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Arolwg Cyffredinolrwydd Pwynt (PPS) ar gyfer Cymru 2023 - Cyfleusterau gofal hirdymor (Saesneg yn unig)

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Arolwg Cyffredinolrwydd Pwynt (PPS) ar gyfer Cymru 2023 - Cyfleusterau gofal hirdymor (Saesneg yn unig) (2 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig