Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2021–22
Cyhoeddwyd ar: 24ain Ionawr 2024
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu cronfa ddata Cymru gyfan i gefnogi’r broses o frechu babanod sy’n cael eu geni i famau sydd â haint hepatitis B.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r niferoedd ac amseroldeb dewis rhoi’r tri dos cyntaf o imiwneiddiad hepatitis B, yn ogystal â’r tueddiadau o ran dewis rhoi brechiad i fabanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn ystod 2022, yn ôl yr hyn a hysbyswyd i Dîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae niferoedd ac amseroldeb y rhai sy’n cymryd y dos imiwneiddio hepatitis B ar 12 mis, a seroleg mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn 2021 yn cael ei gyflwyno hefyd.
Cefndir
Gall haint hepatitis B gael ei drosglwyddo o fam heintiedig i’w babi yn ystod genedigaeth. Mae’r babanod sy’n cael eu heintio yn y modd hwn yn debygol iawn o gael eu heintio’n gronig, ac yn gallu heintio eraill o ganlyniad. Gall brechu amserol leihau’r risg o haint ar enedigaeth o dros 90%.
O 1 Awst 2017 ymlaen, daeth pob babi yn gymwys i gael y brechlyn hecsavalent (‘6 mewn 1’) newydd sy’n cynnwys hepatitis B. Mae hwn yn disodli’r brechlyn ‘5 mewn 0’ (DTaP/IPV/Hib, cyfuniad o diptheria, tetanws, pertwsis, polio wedi’i anactifadu, a brechlyn Haemophilus influenzae math B) a roddir i fabanod yn 2, 3 a 4 mis oed. Dylai’r babanod hyn gael dos o frechlyn Hepatitis B monovalent yn 0 mis oed ac yn 1 mis oed, y brechlyn ‘6 mewn 1’ fel y’i trefnwyd yn 2, 3 mis oed, a’r brechlyn monovalent yn 12 mis oed. Mae hyn yn gyfanswm o chwe dos o frechlynnau sy’n cynnwys Hepatitis B. Er mwyn monitro a yw’r babanod sydd mewn perygl yn cael eu hamddiffyn rhag Hepatitis B, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar faint o fabanod sy’n cael brechlyn sy’n cynnwys hepatitis B yn 12 a 0, 1, 2 a 12 mis oed, ac amseroldeb y brechiadau hynny.
Mae’r data yn yr adroddiad hwn wedi’i gymryd o gronfa ddata Imiwneiddiad Hepatitis B Babanod Newyddenedigol Cymru Gyfan. Datblygwyd y gronfa ddata i gynorthwyo Tîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro ac i ddilyn cyfraddau imiwneiddio hepatitis B mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif. Mae’r gronfa ddata hefyd yn caniatáu i Iechyd Cyhoeddus Cymru fonitro brechiadau hepatitis B mewn babanod newyddenedigol a phlant ifanc a anwyd i famau heintiedig. Casglwyd data’r adroddiad hwn ar 11 Ionawr 2024.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2021–22 (Saesneg yn unig)
PDF, 318KB
Llawrlwytho PDF - Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2021–22 (Saesneg yn unig) (318 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Gwerthusiad o ymyriadau effeithiol ar gyfer defnyddwyr cyffuriau ac i atal gorddos
Crynodeb Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r dystiolaeth ryngwladol ar ymyriadau diogel, effeithiol a chost-effeithiol ar gyfer y rhai sy’n chwistrellu cyffuriau; y rhai sy’n defnyddio’r prif symbylyddion; ac ymyriadau sy’n […]
Cyhoeddwyd: 17eg Tachwedd 2009
-
Profion smotiau gwaed sych ar gyfer hepatitis C, hepatitis B a HIV
Crynodeb Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cefndir a’r camau angenrheidiol ar gyfer gweithredu profion smotiau gwaed sych (DBS) ar gleientiaid y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, a hynny er mwyn […]
Cyhoeddwyd:
-
Cynllun gweithredu Cymru ar gyfer hepatitis firaol a gludir yn y gwaed 2010–2015
Crynodeb Gweithredol Mae Hepatitis C (HCV) a hepatitis B (HBV) yn firysau sy’n lledaenu o berson i berson trwy gyswllt â gwaed sydd wedi’i heintio ac â hylifau eraill y […]
Cyhoeddwyd: 1af Chwefror 2010
-
Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2022–23
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r niferoedd ac amseroldeb dewis rhoi’r tri dos cyntaf o imiwneiddiad hepatitis B, yn ogystal â’r tueddiadau o ran dewis rhoi brechiad i fabanod […]
Cyhoeddwyd: 30ain Mai 2023
-
Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2020–21
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r niferoedd ac amseroldeb dewis rhoi’r tri dos cyntaf o imiwneiddiad hepatitis B, yn ogystal â’r tueddiadau o ran dewis rhoi brechiad i fabanod […]
Cyhoeddwyd: 22ain Chwefror 2023
-
Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2019–20
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r niferoedd ac amseroldeb dewis rhoi’r tri dos cyntaf o imiwneiddiad hepatitis B, yn ogystal â’r tueddiadau o ran dewis rhoi brechiad i fabanod […]
Cyhoeddwyd: 23ain Tachwedd 2021
Setiau data cysylltiedig
-
Adroddiadau labordy o firws Hepatitis B fesul wythnos
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 12, 2025