Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Strategaeth atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) ar gyfer y GIG yng Nghymru

Manylion:

Awduron: Dr Alison Mott, Dr Lorna Price

Cyhoeddwyd ar: 23ain Mawrth 2016

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Diben a chrynodeb o’r ddogfen

Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn bryder iechyd cyhoeddus mawr sy’n golygu bod angen ystyried dull mwy systematig o atal ac ymyrryd ar draws GIG Cymru. Er bod amrywiaeth o ganllawiau amlasiantaethol, cytunodd Rhwydwaith GIG Diogelu Plant Cymru y byddai strategaeth ar gyfer GIG Cymru yn rhoi eglurhad o gyfrifoldebau sefydliadau iechyd. Mae’n gosod nodau ac amcanion strategol ar gyfer y GIG yng Nghymru ar gyfer atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant dros y cyfnod 2016-2019.

Mae cynllun gweithredu i gefnogi cyflwyniad y strategaeth. Mae hwn yn nodi’r camau gweithredu mewn perthynas â’r amcanion, pwy sy’n gyfrifol, amserlenni clir a thystiolaeth o gyflawniad.

Nodau cyffredinol y strategaeth yw:

  • Darparu fframwaith ar gyfer ymateb strategol y GIG yng Nghymru i nodi ac i leihau cyfraddau camfanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru.
  • Sicrhau bod GIG Cymru yn cyfrannu at weithio amlasiantaeth a phartneriaethau effeithiol i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag y math hwn o gam-drin ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
  • Sicrhau bod y fframwaith yn cyd-fynd â’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i fynd i’r afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (Cymru)

Lawrlwythiadau adroddiadau

Strategaeth atal Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) ar gyfer y GIG yng Nghymru (Saesneg yn unig)

Word doc, 92KB

Llawrlwytho Word doc - Strategaeth atal Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) ar gyfer y GIG yng Nghymru (Saesneg yn unig) (92 KB)

Llawrlwytho Word doc

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig