Cysylltu â’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd
Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cefnogi gweithredu er mwyn sicrhau planed iach, i ddiogelu ein poblogaeth nawr ac yn y dyfodol.
Mae iechyd pobl a’r blaned yn gysylltiedig.
Mae llawer o gamau gweithredu sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd, megis ynni glân a theithio gwyrddach, hefyd yn cefnogi bywydau hirach ac iachach.
Mae angen i ni ddiogelu pobl a chymunedau rhag risgiau iechyd newid hinsawdd a niwed amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys aer a dŵr glân, mynediad at fwyd iach, a gwasanaethau iechyd sy’n gallu gwrthsefyll tywydd eithafol a chlefydau.
Beth rydym yn ei wneud
Ein nod yw mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus yr argyfyngau hinsawdd a natur drwy fonitro effeithiau a chymryd camau i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant.
Mae ein hymrwymiad i feddwl hirdymor ac ataliol yn ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn heddiw wrth ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol.
Meysydd gwaith allweddol
- Cydlynu ein gwaith ar newid hinsawdd a grymuso staff i ddyfnhau eu dealltwriaeth a chwarae rhan weithredol wrth fynd i’r afael â heriau hinsawdd.
- Cefnogi gweithredu sy’n ymgorffori’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio ar draws ein sefydliad, gan gyfrannu at y nodau llesiant.
- Grymuso timau i fabwysiadu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio, o leihau gwastraff a chefnogi teithio llesol i hyrwyddo mynediad at natur drwy ein canllawiau a’n rhaglenni.
- Adeiladu partneriaethau cryf gyda sefydliadau a rhanddeiliaid eraill i ysgogi gweithredu ar y cyd a chreu dyfodol iachach a mwy cynaliadwy i Gymru.
Gweithio gyda ni
Mae gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn creu bywydau iachach a chymunedau cryfach. Drwy gydweithio, gallwn wneud y gorau o’r cyfleoedd hyn a chreu dyfodol mwy cynaliadwy.
Os hoffech wybod mwy am ein gwaith neu drafod gweithio mewn partneriaeth, cysylltwch drwy e-bostio [email protected].
Defnyddio ein hadnoddau a’n canllawiau
Rydym yn cynnig ystod o adnoddau sydd wedi’u cynllunio i rymuso unigolion a thimau i fabwysiadu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.
O gaffael cynaliadwy a theithio llesol i leihau gwastraff a chefnogi bioamrywiaeth, mae ein hadnoddau’n cwmpasu pob agwedd ar gynaliadwyedd i ysbrydoli gweithredu cadarnhaol a newid parhaol.