Gwerthusiad o ymyriadau effeithiol ar gyfer defnyddwyr cyffuriau ac i atal gorddos
Awduron: Noel Craine, Josie Smith, Tîm Diogelu Iechyd y De Ddwyrain, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol
Cyhoeddwyd ar: 17eg Tachwedd 2009
- Rhyngwladol
Crynodeb
Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r dystiolaeth ryngwladol ar ymyriadau diogel, effeithiol a chost-effeithiol ar gyfer y rhai sy’n chwistrellu cyffuriau; y rhai sy’n defnyddio’r prif symbylyddion; ac ymyriadau sy’n anelu at leihau achosion o orddos a marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Cyflwyniad
Diben yr adroddiad hwn yw darparu adolygiad cryno o’r dystiolaeth ryngwladol y tu ôl i ymyriadau gofal iechyd allweddol sydd wedi’u targedu ar ddefnyddwyr sy’n chwistrellu cyffuriau. Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar ymyriadau sydd â’r potensial i leihau:
- trosglwyddiad firaol yn y gwaed
- gorddos cyffuriau
- heintiau bacteriol
- niwed meinwe oherwydd pigiadau
- cymhlethdodau meddygol sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau
Ni fydd yr adroddiad yn archwilio’r sylfaen dystiolaeth y tu ôl i driniaethau amnewid neu ymyriadau seicogymdeithasol ar gyfer triniaethau amnewid opiadau. Mae’r ddau ymyrraeth iechyd ganolog hyn sy’n targedu defnyddwyr sy’n chwistrellu cyffuriau wedi bod yn destun adolygiad trylwyr mewn mannau eraill (Gossop et al, 2001; Gossop, 2006; Campbell et al; 2007).
Lawrlwythiadau adroddiadau
Gwerthusiad o ymyriadau effeithiol ar gyfer defnyddwyr cyffuriau ac i atal gorddos (Saesneg yn unig)
, 639KB
Llawrlwytho - Gwerthusiad o ymyriadau effeithiol ar gyfer defnyddwyr cyffuriau ac i atal gorddos (Saesneg yn unig) (639 KB)
Llawrlwytho