Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Profion smotiau gwaed sych ar gyfer hepatitis C, hepatitis B a HIV

Manylion:

Awduron: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Diogelu Iechyd, Firoleg Arbenigol Caerdydd

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Crynodeb

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cefndir a’r camau angenrheidiol ar gyfer gweithredu profion smotiau gwaed sych (DBS) ar gleientiaid y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, a hynny er mwyn casglu gwybodaeth am gysylltiad â firws hepatitis C (HCV), firws hepatitis B (HBV), a HIV. Y bwriad yw i’r adnodd gefnogi asiantaethau camddefnyddio sylweddau ledled Cymru i gynnal y profion gyda’u cleientiaid.

Cefndir

Mae tua chwarter y chwistrellwyr cyffuriau yng Nghymru wedi’u heintio â HCV.

Mae gwaith ymchwil o Dde Cymru yn awgrymu nad yw’r mwyafrif o’r rhai sy’n chwistrellu cyffuriau ac sydd wedi’u heintio â HCV yn gwybod eu bod wedi’u heintio,¹ ac mae llawer o’r heintiau HBV hefyd yn debygol o fod heb gael ddiagnosis. Mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu bod nifer yr achosion o HIV yn cynyddu ymhlith defnyddwyr sy’n chwistrellu cyffuriau yn y DU.³

Bydd cyfraddau isel o ddiagnosis yn cyfrannu at faich clefyd yr afu yng Nghymru yn y dyfodol, gan y bydd heintiau hepatitis firaol sy’n hwyr yn cael eu hadnabod yn amlygu fel clefydau clinigol a heintiau HIV yn cael eu diagnosio ar gamau hwyr y clefyd. Mae cyfle i leihau trosglwyddiad pellach yr haint hefyd yn cael ei golli. Felly, mae risg glinigol o fethu â gwella’r cyfraddau diagnosis gwael ar hyn o bryd.

Mae’r protocolau profi diagnostig ar hyn o bryd yn ei gwneud yn ofynnol cymryd samplau gwaed o’r wythïen. Gall hyn fod yn broblem i’r rhai sy’n chwistrellu cyffuriau gan fod tynnu gwaed o’r wythïen yn gallu bod yn anodd iawn. Mae’r dull smotiau gwaed sych yn symlach o lawer, ac mae’n profi am wrthgyrff i HCV, HBV, a HIV felly dim ond ychydig iawn o waed sydd angen ei gymryd. Mae’r dull wedi’i dreialu gan Wasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Orllewin Cymru gydag unigolion nad oedd yn dymuno tynnu gwaed. Os yw canlyniadau’r prawf smotyn gwaed yn bositif, rhaid iddo gael ei gadarnhau gan brawf tynnu gwaed. Mae data o’r cynllun peilot yng Ngogledd Cymru yn awgrymu bod y protocol profi smotiau gwaed sych yn ymarferol ac yn debygol o gynyddu nifer yr unigolion sy’n gwirfoddoli i gael eu profi.

Nod datblygu’r gwasanaeth

  1. Gwella’r cyfraddau diagnosis HCV a HBV isel sy’n bodoli ar hyn o bryd ymhlith defnyddwyr sy’n chwistrellu cyffuriau yng Nghymru
  2. Gwella diagnosis HIV ymhlith defnyddwyr sy’n chwistrellu cyffuriau yng Nghymru
  3. Monitro pa mor gyffredin yw’r haint ymhlith unigolion sy’n dod i gael profion

Lawrlwythiadau adroddiadau

Profion smotiau gwaed sych ar gyfer hepatitis C, hepatitis B a HIV (Saesneg yn unig)

PDF, 473KB

Llawrlwytho PDF - Profion smotiau gwaed sych ar gyfer hepatitis C, hepatitis B a HIV (Saesneg yn unig) (473 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig