Adroddiad blynyddol y Rhaglen Mesur Plant 2023 i 2024
Cyhoeddwyd ar: 21ain Mai 2025
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r data a gasglwyd ledled Cymru yn ystod blwyddyn ysgol 2023–2024 at ddibenion gwyliadwriaeth.
Pwyntiau Allweddol
Cafodd pob plentyn 4–5 oed sydd yn y dosbarth derbyn yng Nghymru gynnig profion arferol gan dimau nyrsio ysgolion i fesur eu taldra a’u pwysau. Mae’r data hyn yn cael eu hadrodd yn genedlaethol i hwyluso gwyliadwriaeth.
- Ar gyfer Cymru yn gyffredinol, fe ddychwelwyd at y lefelau cyfranogiad a welwyd cyn y pandemig. Cafodd 93.4% o blant eu pwyso a’u mesur eleni.
- Yng Nghymru gyfan, roedd cyfran y plant â phwysau iach yn 73.5%, sydd ychydig yn is o’i gymharu â’r llynedd (74.3%) ond yn ystadegol yn sylweddol uwch na’r lefel a fesurwyd cyn y pandemig (72.4%).
- Yng Nghymru gyfan, cyfran y plant dros bwysau oedd 13.7, a chyfradd y plant â gordewdra oedd 11.8%.
- Roedd cyfran y plant â gordewdra yng Nghymru yn uwch na’r hyn a adroddwyd yn Lloegr ac yn yr Alban.
- Roedd plant sy’n byw yn y ‘pumed amddifadedd’ mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod dros bwysau neu’n ordew o’i gymharu â’r pumed lleiaf difreintiedig, y pumed amddifadedd agosaf i’r lleiaf difreintiedig, y pumed amddifadedd canol a’r pumed amddifadedd agosaf at y mwyaf difreintiedig.
- Roedd bechgyn yn ystadegol sylweddol fwy tebygol o fod dan bwysau o’i gymharu â merched, gyda chyfran y bechgyn dan bwysau yn 1.3% o’i gymharu â 0.6% o ferched.
- Roedd canlyniadau eleni yn dangos gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng ardaloedd gwledig a threfol.
- Cyfran y plant mewn ardaloedd gwledig a oedd dros bwysau neu â gordewdra oedd 26.8%, o’i gymharu â 25.0% mewn ardaloedd trefol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad Blynyddol Rhaglen Mesur Plant 2023–2024 (Saesneg yn unig)
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad Blynyddol Rhaglen Mesur Plant 2023–2024 (Saesneg yn unig) (3 MB)
Llawrlwytho PDF