Ein strategaeth hirdymor 2023 i 2035 - Ein gweledigaeth
Rydym yn gweithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad teg a chyfartal at y pethau sy’n arwain at iechyd a llesiant da.
I gyflawni hyn, mae gennym Strategaeth Hirdymor (2023-35) sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni dyfodol iachach i bobl yng Nghymru erbyn 2035. Cafodd ei chymeradwyo gan ein Bwrdd ym mis Mawrth 2023 ar ôl adolygiad o’n Strategaeth Hirdymor flaenorol (2018-30).
Mae ein Strategaeth yn nodi ein diben a’n rôl yn glir ac mae’n cael ei hategu gan nifer bach o ganlyniadau sy’n ein helpu i asesu ein cynnydd.
Byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth drwy gyflawni ein chwe blaenoriaeth:
- Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd
- Hybu llesiant meddyliol a chymdeithasol
- Hybu ymddygiad iach
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar
- Darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus rhagorol i ddiogelu’r cyhoedd a sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau posibl i’r boblogaeth
- Mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus
Cafodd ein strategaeth ei datblygu drwy edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd cyhoeddus i ddeall iechyd pobl Cymru. Mae hyn wedi dylanwadu ar ein strategaeth a sut y gwnaethom benderfynu ar ein blaenoriaethau. Ein blaenoriaethau a’r camau gweithredu a gymerwn o dan bob un ohonynt yw ein hymateb i’r heriau hyn.
Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd a gwelliant i’n cefnogi i ddod yn sefydliad dysgu er mwyn cyflawni ein strategaeth. Y dull a ddewiswyd gennym i wneud hyn yw Ansawdd fel Strategaeth Sefydliadol (QOS). Mae QOS yn canolbwyntio ar welliant parhaus i ddiwallu anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Mae QOS yn cynnwys pum gweithgaredd arweinyddiaeth sy’n cefnogi gweithgareddau ymgysylltu â staff ehangach fel ‘Y Gorau y Gallwn Fod’ a ‘Gweithio Sut Mae’n Gweithio Orau’. Mae hyn yn ei dro yn creu diwylliant ac amgylchedd sy’n cefnogi ein staff ac yn darparu lle gwych i staff weithio a ffynnu ynddo. Mae’r dull hwn at ansawdd a gwelliant hefyd yn cefnogi Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, yn enwedig ei dyletswyddau o ran ansawdd a gonestrwydd.
Mae ein Strategaeth Hirdymor wedi’i rhannu’n 6 adran fel y nodir isod, sy’n cynnwys y cefndir i’n strategaeth, ein datganiad diben, ein blaenoriaethau, a nifer o strategaethau a methodolegau a fydd yn ein helpu i roi ein strategaeth ar waith. Mae’r testun wedi cyflawni achrediad Crystal Mark gan yr Ymgyrch Saesneg Clir.
-
Adran 1 – Crynodeb Gweithredol
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ein diben yw gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach.
-
Adran 2 – Cefndir i’n strategaeth
Mae nifer o faterion allweddol wedi arwain sut rydym wedi datblygu ein strategaeth.
-
Adran 3 – Ein datganiad diben
Ein diben yw gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach.
-
Adran 4 – Ein blaenoriaethau
Mae’r blaenoriaethau wedi’u llywio gan iechyd yng Nghymru, ffactorau a bygythiadau byd-eang ehangach, a deddfwriaeth a pholisi allweddol.
-
Adran 5 – Rhoi ein strategaeth ar waith
Byddwn yn rhoi ein strategaeth ar waith drwy ddatblygu atebion digidol sy’n diwallu anghenion pobl.
-
Adran 6 – Casgliad
Mae’r strategaeth hon yn nodi ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r heriau iechyd sy’n wynebu Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
Gallwch hefyd weld ein blaenoriaethau strategol ar dudalen a’n strategaeth hirdymor fanwl. Mae’r ddogfen hon yn esbonio’r strategaeth yn llawn gan gynnwys ein canlyniadau a’n strategaethau a’n methodolegau galluogi a fydd yn helpu i roi ein strategaeth ar waith.
Gwnaeth ein Strategaeth Hirdymor gael achrediad Crystal Mark Saesneg Clir. Mae’r cyfieithiad ar gael i’w lawrlwytho fel pdf.
Mae gennym nifer o ddogfennau ar gael hefyd sydd wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu ein strategaeth:
Ein Cynllun Strategol 2025 i 2028
Mae hefyd yn cael ei adnabod fel ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI). Mae’r cynllun hwn yn nodi’r camau gweithredu y byddwn yn eu rhoi ar waith dros y tair blynedd nesaf i gyflawni ein strategaeth Gweithio Gyda’n Gilydd ar gyfer Gymru Iachach. Mae’r fideo isod yn rhoi trosolwg o’n Cynllun Strategol. Gallwch hefyd weld y cynllun.
Ein datganiad llesiant
Mae’r datganiad llesiant yn nodi ein hamcanion llesiant yn unol â’n dyletswydd statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015). Gan ein bod wedi diwygio ein Strategaeth Hirdymor yn ddiweddar, rydym wedi diwygio Ein Datganiad Llesiant.
Ein cynllun datgarboneiddio a chynaliadwyedd 2024 i 2026
Mae ein cynllun datgarboneiddio a chynaliadwyedd ar gyfer 2024-2026 yn dilyn cynllun cyntaf y sefydliad ar gyfer 2022-2024. Mae’n amlinellu’r gwaith y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf i gyrraedd targed GIG Cymru o sero net erbyn 2030 a’n hamcan carbon negyddol erbyn 2035, fel y nodir yn ein Strategaeth Hirdymor.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Rhagfyr 2025