Neidio i'r cynnwys

Ein strategaeth hirdymor 2023 i 2035 - Adran 3 – Ein datganiad diben

Ein diben

Ein diben yw ‘gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach’.

Ein cenhadaeth

Rydym yn helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda’n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gyda’i gilydd, mae ein timau’n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Gweledigaeth

Erbyn 2035, byddwn wedi cyflawni dyfodol iachach i Gymru. Rydym yn gweithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad teg a chyfartal at y pethau sy’n arwain at iechyd a llesiant da.

Gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd fel a ganlyn:

  • gweithio gyda’n gilydd;
  • gydag ymddiriedaeth a pharch;
  • i wneud gwahaniaeth.

Prif ganlyniad

Mae’n hanfodol deall ein cynnydd yng Nghymru tuag at ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol lle mae pobl yn byw bywydau hirach ac iachach. Y prif ganlyniad iechyd yr ydym am ddylanwadu arno a’i gefnogi yw:

Gwybodaeth:

cynyddu disgwyliad oes iach a chau’r bwlch disgwyliad oes iach rhwng y lleiaf difreintiedig a’r mwyaf difreintiedig.

Rydym wedi dewis hwn gan ei fod yn un o Ddangosyddion Llesiant Cenedlaethol ac yn un o gerrig milltir cenedlaethol Cymru. Byddwn yn ei fesur drwy ddisgwyliad oes iach adeg geni, gan gynnwys y bwlch rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig. Er nad dim ond ni sy’n gyfrifol am y canlyniad hwn, nac am bob ffactor sy’n effeithio ar iechyd a llesiant, byddwn yn ei ddefnyddio i’n helpu i ddeall iechyd a llesiant cyffredinol pobl Cymru. Bydd hefyd yn ein harwain wrth i ni gyflawni ein strategaeth.

Byddwn yn monitro’r canlyniadau a nodwyd gennym yn y strategaeth hon ac yn datblygu ffyrdd penodol o fesur ein perfformiad. Bydd hyn yn ein galluogi i fonitro ein cyfraniad a’n helpu i werthuso mor effeithiol yr ydym wedi bod ac addasu lle y bo angen. Byddwn hefyd yn monitro ein canlyniadau ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig. (Y nodweddion gwarchodedig yw oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd y rhain.)

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Rhagfyr 2025