Y Pwyllgor Datblygu Sefydliadol a Phobl
Mae’r Pwyllgor hwn yn cynghori’r bwrdd ar bob mater sy’n ymwneud â staff a staffio’r Ymddiriedolaeth. Mae’n rhoi sicrwydd ynghylch datblygu unigolion a’r sefydliad, cynllunio’r gweithlu; yn ogystal â’r Gymraeg, cydraddoldeb, amrywiaeth, hawliau dynol ac iechyd, diogelwch a llesiant. Mae wedi sefydlu’r Grŵp Iechyd a Diogelwch i gyflawni dyletswyddau penodol ar ei ran.
Gweld / lawrlwytho’r Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth ar gyfer y Pwyllgor Datblygu Sefydliadol a Phobl.
Cyfarfodydd
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor yn ei ystyried yn angenrheidiol. Gweler dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Datblygu Sefydliadol a Phobl isod.
Gellir gweld / lawrlwytho papurau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor Datblygu Sefydliadol a Phobl cyn mis Ebrill 2021 drwy ddolen Papurau’r Pwyllgor Datblygu Sefydliadol a Phobl.
Pwy yw pwy
Aelodau
Lleiafswm o dri:
| Cadeirydd a Cyfarwyddwr Anweithredol | Tamsin Ramasut |
| Cyfarwyddwyr Anweithredol |
Kate Young Huw David |
Yn bresennol
Drwy wahoddiad, yn ôl yr angen, ond fel arfer mae’n cynnwys yr isod:
|
Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol a Phobl (Arweinydd Gweithredol) |
Neil Lewis |
| Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu | Claire Birchall |
| Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio, a Chyfarwyddwr Meddygol | Dr Fu-Meng Khaw |
| Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd (neu eu henwebai) | Paul Veysey |
| Cynrychiolydd o’r Fforwm Partneriaeth Staff | Liz Heath |