Neidio i'r cynnwys

Digwyddiadau gofal sylfaenol

Dilynwch y dolenni i’r digwyddiadau, cyrsiau, gweminarau a’r gweithdai wyneb-yn-wyneb ac ar-lein diweddaraf sy’n cwmpasu ystod o bynciau gofal sylfaenol a gofal cymunedol.

Digwyddiadau 2025

Cyflwyniad i’r dangosfyrddau a ddatblygwyd ar gyfer Gofal Sylfaenol yng Nghymru

Ddydd Mawrth 1 Gorffennaf rhwng 10:00-11:00

 

Bydd y weminar hon yn cyflwyno dau ddangosfwrdd data a ddatblygwyd ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghymru.

Datblygwyd Dangosfwrdd Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru trwy gydweithrediad rhwng Gweithrediaeth y GIG ac Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae amddifadedd wedi’i wreiddio’n ddwfn yng Nghymru. Mae clystyrau mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn wynebu heriau gofal iechyd mwy, megis mwy o gyflyrau cronig, disgwyliad oes iach is, a mwy o farwolaethau y gellid eu hosgoi. Mae amddifadedd hefyd yn effeithio ar ddarpariaeth gofal iechyd, gydag amrywiadau gweladwy yn y gweithlu a phresgripsiynu. Mae’r dangosfwrdd yn tynnu sylw at amrywiad ar draws ystod o fesurau, gyda’r nod o ysbrydoli ymchwiliadau pellach, a gwella gofal cleifion yn y pen draw.

Datblygwyd Dangosfwrdd Clwstwr Gofal Sylfaenol gan Arsyllfa Iechyd y Cyhoedd Cymru gyda rhanddeiliaid o dimau iechyd cyhoeddus lleol a Llywodraeth Cymru.

Diben y Dangosfwrdd Clystwr Gofal Sylfaenol yw darparu dangosfwrdd sy’n gysylltiedig â gwybodaeth iechyd y cyhoedd gofal sylfaenol a fydd yn cefnogi ystod o ddefnyddwyr a chynllunio. Bydd proffil cryno yn galluogi defnyddwyr ddelweddu dangosyddion allweddol a chymharu data dangosyddion â chyfartaleddau byrddau iechyd a Chymru gyfan.

Gwyliwch recordiad o’r weminar

Digwyddiadau partneriaid

Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (RSGS)

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gynllunnir, e-bostiwch [email protected]

Royal College of Nursing (RCN)

RCN Cymru Digwyddiadau i ddod (Dolen Saesneg yn unig)