Neidio i'r cynnwys

Lleihau anghydraddoldebau iechyd trwy ofal sylfaenol

Mae’r tudalennau Teg i Bawb ar leihau anghydraddoldebau iechyd wedi’u datblygu i gefnogi’r system gofal sylfaenol i gymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Gellir disgrifio anghydraddoldebau iechyd fel gwahaniaethau annheg y gellir eu hosgoi rhwng grwpiau poblogaeth. 

Gellir disgrifio’r grwpiau hyn ar draws pedwar categori a gall rhai ohonynt orgyffwrdd a gwaethygu profiad o anfantais. Mae’r anfantais hon yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd. Mae’r grwpiau poblogaeth sy’n cael eu hystyried fel anghydraddoldebau iechyd yn cynnwys (gan adnabod bod gorgyffwrdd neu ‘groestoriadedd’ posibl): nodweddion wedi’u diogelu, poblogaeth tlawd cymdeithasol-economaidd, daearyddiaeth, iechyd cynhwysol a grwpiau bregus.

Mae’r adnoddau ar y dudalen hon yn cynnwys: 

  • Teg i Bawb, Cynllun Gweithredu Strategol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy Ofal Sylfaenol yng Nghymru 
  •  Pecynnau cymorth tegwch i gefnogi cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau
  •  Cyfeiriadau at ddata a thystiolaeth i gefnogi gwneud penderfyniadau o fewn gofal sylfaenol