Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Awduron: Rhys Gibbon
Adolygwyd: Mai 8, 2025
Adolygiad nesaf: Rhagfyr 8, 2025
Tabl cynnwys:
Crynodeb:
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n cyflwyno canlyniadau arolwg wedi’u diweddaru ar iechyd a lles plant oed ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd y diweddariad hwn yn rhoi dealltwriaeth bellach o iechyd a lles plant ysgolion uwchradd ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu defnyddwyr i ddeall y sefyllfa bresennol a gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n effeithio'n gadarnhaol ar bobl ifanc. Mae’r dangosfwrdd yn cynnwys 73 o bynciau gwahanol ar gyfer pedair blynedd yr arolwg (2017, 2019, 2021 a 2023). Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â rhywedd, oedran, grŵp blwyddyn, cyfoeth teuluol, ethnigrwydd, grŵp blwyddyn yn ôl awdurdod lleol a lefelau daearyddol gwahanol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Lawrlwytho data cyflawn Rhwydwaith Ymchwil mewn Ysgolion (SHRN)
Excel, 7MB
Llawrlwytho Excel - Lawrlwytho data cyflawn Rhwydwaith Ymchwil mewn Ysgolion (SHRN) (7 MB)
Llawrlwytho ExcelFersiynau eraill:
Adroddiadau perthnasol
Ni ddewiswyd adroddiadau perthnasol
Setiau data cysylltiedig
Ni ddewiswyd tudalennau data perthnasol