Ymateb i geisiadau cynllunio – canllaw i fyrddau iechyd
Er nad yw Byrddau Iechyd Lleol yn ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio, maent yn gyrff cyhoeddus allweddol y dylid ymgynghori â nhw ar geisiadau penodol, er enghraifft datblygiadau preswyl. Gellir cytuno o ran graddfa a natur y datblygiad yr ymgynghorir yn ei gylch yn lleol h.y. ceisiadau preswyl mawr, neu geisiadau preswyl dros raddfa, cwmpas a maint penodol, unedau manwerthu neu brosiectau seilwaith. Mae hefyd yn bosibl i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud sylwadau ar geisiadau nad ymgynghorir ag ef yn uniongyrchol arnynt, ond ei fod yn credu y byddant yn effeithio ar iechyd y boblogaeth a gwasanaethau gofal iechyd lleol. Gallant sganio rhestrau ceisiadau wythnosol i nodi ceisiadau datblygu allweddol.
Gwelwch y crynodeb ymateb cynllunio sy’n gysylltiedig â’r canllaw hon yma.
Gwelwch y templed ymateb cynllunio a argymhellir yn y canllaw hon yma.