Ynglŷn â sgrinio coluddion - Arwyddion a symptomau canser y coluddyn
Gall canser y coluddyn achosi nifer o arwyddion a symptomau. Bydd dod o hyd i ganser y coluddyn yn gynnar yn rhoi’r siawns orau i chi o gael triniaeth lwyddiannus. Gofynnwch i’ch meddyg wirio unrhyw newidiadau. Peidiwch ag aros am eich pecyn profi’r coluddyn.
Arwyddion a symptomau i gadw llygad amdanynt:
B – Gwaedu (B) o’ch pen ôl neu waed yn eich pŵ
O – Newid parhaus (O) neu anesboniadwy yn arferion eich coluddyn
W – Colli pwysau (W) heb esboniad
E – Blinder mawr (E) am ddim rheswm amlwg
L – Lwmp (L) neu boen yn eich bol
Gall y symptomau hyn gael eu hachosi gan nifer o gyflyrau, nid canser yn unig. Os ydych wedi sylwi ar unrhyw un o’r symptomau hyn, siaradwch â’ch meddyg.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 23ain Mawrth 2026