Neidio i'r cynnwys

Retinopathi diabetig

Mae colli golwg oherwydd retinopathi diabetig wedi lleihau ers dechrau sgrinio.1

1 Scanlon PH. Cymwynas Y Rhaglen Gweledigaeth Diabetig GIG Cymru o ran lleihau duedd i ddallineb sy’n gysylltiedig â diabetes, cymariaethau yn Ewropea, a heriau yn y dyfodol – PMC (nih.gov) – (Saesneg yn unig) Acta Diabetol. 2021 Apr;58(4):521-530. [Cyrchwyd ar: Tachwedd 2022]

Mae retinopathi diabetig yn gyflwr a all effeithio ar unrhyw un sydd â diabetes math 1 neu fath 2. Mae’n achosi niwed i’r pibellau gwaed sy’n cyflenwi cefn y llygad (y retina). 

Dros amser, gall siwgr uchel yn y gwaed neu newidiadau mawr mewn lefelau siwgr yn y gwaed wneud i’r pibellau gwaed ollwng neu gael eu blocio. Os na fydd yn cael ei drin, gall niweidio’ch golwg. Gall retinopathi diabetig gymryd blynyddoedd lawer i ddatblygu ac yn aml, ni cheir unrhyw symptomau amlwg.  

Delwedd yn cymharu llygad iach arferol ag un sydd â niwed i’r retina a phibellau gwaed yn gollwng.

Mae’r ddelwedd gyntaf (ar y chwith) yn dangos llygad heb unrhyw retinopathi yng nghefn y llygad (y retina). Mae’r ail ddelwedd (ar y dde) yn dangos llygad â newidiadau retinopathi diabetig, ac mae’r pibellau gwaed yn gollwng.

Mae dod o hyd i newidiadau cynnar yn golygu y gallwch gael triniaeth i’ch atal rhag colli eich golwg.  Mae mynd am brawf sgrinio llygaid diabetig ar ôl cael eich gwahodd yn bwysig oherwydd gall ddarganfod newidiadau’n gynnar, cyn i chi sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg. Gellir monitro unrhyw newidiadau wedyn a’ch atgyfeirio am driniaeth mewn ysbyty os oes angen.

Mae’n bwysig cadw’n iach, drwy reoli a thrin eich diabetes. Ewch i wefan Diabetes DU (Saesneg yn unig) neu siaradwch â’ch gweithiwr iechyd proffesiynol i gael gwybodaeth bellach. 

Ffactorau risg ar gyfer retinopathi diabetig

Pa mor hir y mae diabetes wedi bod arnoch chi

Mae diabetes yn gyflwr gydol oes sy’n achosi i lefelau siwgr yn eich gwaed fynd yn uchel iawn. Mae’n bwysig eich bod yn mynd am brawf sgrinio llygaid diabetig bob tro y byddwch yn derbyn gwahoddiad. Mae eich siawns o ddatblygu retinopathi diabetig yn cynyddu dros amser oherwydd lefelau siwgr gwaed uchel neu newidiadau mawr i’ch lefelau siwgr. 

Rheoli eich diabetes

Cadw lefelau eich siwgr gwaed o fewn yr ystod a argymhellir i chi (fel y trafodwyd gyda’ch tîm gofal iechyd) yw’r ffordd orau o atal retinopathi diabetig. Mae rheoli eich diabetes (Saesneg yn unig) yn helpu i atal cymhlethdodau.

Beichiogrwydd

Os ydych yn feichiog ac mae diabetes gennych chi, mae’n bosibl y bydd gennych fwy o risg o ddatblygu retinopathi diabetig. Byddwch yn cael cynnig apwyntiadau ar gyfer profion sgrinio llygaid diabetig ychwanegol.

I gael gwybodaeth am sgrinio yn ystod beichiogrwydd, gwyliwch y fideo hwn ar  dudalen Sgrinio Cyn Geni Cymru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon siaradwch â’ch tîm cyn geni.

Cyflyrau iechyd eraill

Gall cyflyrau neu afiechydon meddygol eraill hefyd gynyddu eich risg o ddatblygu retinopathi. Mae’r rhain yn cynnwys pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a cholesterol uchel.

Ysmygu

Mae pobl â diabetes sy’n ysmygu yn fwy tebygol o ddatblygu retinopathi.  I gael gwybodaeth am roi’r gorau i ysmygu, ewch i i Helpa Fi i Stopio neu ffoniwch 0800 085 2219.