Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Ymwrthedd Cephalosporin 3ydd Genhedlaeth yng Nghymru 2008

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 9fed Medi 2010

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Astudiaeth Cymru Gyfan ar dargedu gwyliadwriaeth ar cephalosporin 3ydd genhedlaeth (3GC)

Mae ymwrthedd i carbapenem mewn bacteria Gram-negatif yn broblem gynyddol yng Nghymru ac yng ngweddill y byd. Mae’n arwain at fethiannau triniaeth ac yn cyfrannu at risg sylweddol i’r claf. Mae ymwrthedd cephalosporin 3ydd genhedlaeth (3GC) mewn bacteria Gram-negatif yn arwain at ddefnyddio mwy o carbapenem, a gall gyfrannu at gynyddu lefelau ymwrthedd.

Mae hi’n bwysig felly i ni ganfod beth yw’r lefelau ymwrthedd 3GC mewn bacteria Gram-negatif. Bob 5 mlynedd bydd yr Uned Arbenigol Cemotherapi Gwrthficrobaidd (SACU) yn casglu trawstoriad o’r straeniau o Enterobactericeae sydd ag ymwrthedd i 3GC, sydd wedi’u hynysu yn labordai Cymru, ac yn ymchwilio i fecanweithiau ymwrthedd.

Yn 2008 a 2014 casglodd SACU tua 1/6ed o’r holl Enterobacteriaceae sy’n gwrthsefyll 3GC ledled Cymru. Mae manylion casgliad 2008 i’w gweld yn yr adroddiad isod. Ar hyn o bryd rydym yn casglu straeniau a gafodd eu hynysu yn ystod 2020 a 2021. Mae’r casgliad nesaf yn debygol o fod yn 2025 i 2026.

Gwyliadwriaeth 2020

Hoffem barhau â’n gwyliadwriaeth o ymwrthedd cephalosporin 3ydd genhedlaeth yng Nghymru drwy ofyn i bob labordy gyflwyno’r arunigon canlynol i SACU:

Lleoliad Ysbyty Nifer a geiswyd E.coli Ysbyty Coliform Ysbyty E.coli Meddyg Teulu Coliform Meddyg Teulu
Ysbyty Bronglais, Aberystwyth 32 6 4 17 5
Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd (gan gynnwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg) 196 39 62 54 41
Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd 169 48 29 68 24
Singleton, Abertawe 226 25 90 27 84
Glangwili, Caerfyrddin 129 26 30 36 37
Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl (gan gynnwys Maelor a Bangor) 259 62 45 102 50
Cyfanswm 1011 206 260 304 241

Lawrlwythiadau adroddiadau

Ymwrthedd Cephalosporin 3ydd Genhedlaeth yng Nghymru 2008 (Saesneg yn unig)

PDF, 760KB

Llawrlwytho PDF - Ymwrthedd Cephalosporin 3ydd Genhedlaeth yng Nghymru 2008 (Saesneg yn unig) (760 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig