Neidio i'r cynnwys
Data

Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Manylion:

Awduron: Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru

Adolygwyd: Mehefin 9, 2022

Crynodeb:

Gallai cyfraddau marwolaeth uwch yn 2020 oherwydd pandemig COVID-19 roi cyfrif am rai o’r amcangyfrifon gwaeth o ran disgwyliad oes a welwyd yn 2018-2020. Fodd bynnag, nodwyd ataliad yn y gwelliant mewn disgwyliad oes cyn y pandemig fel rhan o Disgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru 2020. Mae rhai esboniadau posibl a restrwyd ar gyfer disgwyliadau iechyd gwaeth ac anghydraddoldebau cynyddol yn cynnwys twf cyflogau isel, tlodi tanwydd, ansicrwydd bwyd, a’r cyfnod o gyni yng Nghymru ers 2010/11 fel yr amlygwyd gan Syr Michael Marmot1. Mae’r cynnydd diweddar yng nghostau byw yn bwysau ychwanegol a allai gynyddu anghydraddoldebau ymhellach o ran disgwyliadau iechyd am na fydd aelwydydd incwm isel efallai’n gallu fforddio hanfodion sylfaenol fel bwyd a gwres i gynnal safon byw digonol. Mae 'Cymru Sy’n Fwy Cyfartal' yn un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae disgwyliad oes, disgwyliad oes iach a’u bylchau anghydraddoldeb yn ddangosyddion pwysig i helpu i fesur anghydraddoldebau mewn iechyd ac maent wedi eu cynnwys yn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.

Adroddiadau perthnasol

Setiau data cysylltiedig

Ni ddewiswyd tudalennau data perthnasol