Dosio gwrthficrobaidd pan fo nam ar yr arennau
Cymerir dosau o’r Gronfa Ddata Cyffuriau Arennol, sy’n gallu argymell dosio y tu hwnt i drwydded y cynnyrch, ac maen nhw’n seiliedig ar glirio creatinin a amcangyfrifir gan ddefnyddio hafaliad Cockcroft a Gault. Gellir defnyddio eGFR fel amcangyfrif ar gyfer clirio creatinin, ond dylid defnyddio hafaliad Cockcroft a Gault ar gyfer cleifion risg uchel gan gynnwys cleifion â BMI 40 kg/m2, neu >75 oed. Ystyriwch ddefnyddio’r hafaliad Cockcroft a Gault ar gyfer yr henoed, adeiladwyr corff, pobl sydd wedi colli aelodau’r corff, cleifion â chlefyd dirywio’r cyhyrau a feganiaid. Mewn cleifion o dan bwysau neu dros bwysau, defnyddiwch ar y cyd â’r canllawiau gwrthficrobaidd ‘dosing in extremes of body weight’.
Bydd y canllaw hwn yn cael ei adolygu bob 12 mis. I gael y canllawiau diweddaraf fodd bynnag, dylech gyfeirio at y Gronfa Ddata Cyffuriau Arennol.