Cysylltu â’r Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus
Mae’r Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus (PHCU) yn gydweithrediad academaidd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor. Cafodd ei sefydlu yn 2017, ac mae’n adnodd hyblyg ac effeithlon ar gyfer gwaith ymchwil cyflym, gwerthusiadau, ac i roi cymorth datblygu polisi i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ehangach.
Mae’r gwasanaeth iechyd cyhoeddus unigryw a’r cydweithrediad academaidd a gynigir gan yr uned yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer datblygu gwybodaeth, gwerthuso ymarfer, llywio polisi ac adeiladu capasiti a chydweithrediadau iechyd cyhoeddus yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’r uned yn datblygu gwaith ar faterion a dulliau iechyd cyhoeddus newydd trwy gynnal arolygon poblogaeth, adolygiadau tystiolaeth systematig a gwerthusiadau ymyrraeth. Mae gan y tîm bortffolio ymchwil iechyd cyhoeddus eang gydag arbenigedd mewn atal trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), ac maen nhw’n arwain gwaith rhyngwladol y Gyfarwyddiaeth yn y meysydd hyn ac yn gweithio mewn cydweithrediad agos â’r Hwb ACE ac Uned Atal Trais Cymru. Mae gan y tîm gysylltiadau cryf â Sefydliad Iechyd y Byd mewn meysydd sy’n cynnwys atal trais a chysylltiad cymdeithasol.
Ein gwaith
Mae’r Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus yn cynnal ac yn cefnogi gwaith ymchwil ar draws ystod eang o faterion iechyd cyhoeddus. Mae sgiliau ymchwil y tîm yn cynnwys:
- Dylunio a gweithredu arolygon
- Dadansoddi data
- Adolygiadau systematig o lenyddiaeth
- Dulliau ymchwil ansoddol a chymysg
- Gwerthuso
- Ysgrifennu academaidd ac adroddiadau
- Ysgrifennu grantiau
Rydym yn cydweithio â sefydliadau academaidd, y GIG a sefydliadau eraill ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol i weithredu ac i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu polisi. Mae ei waith diweddar yn cynnwys:
- Cynnal arolwg cenedlaethol o’r boblogaeth ar brofiadau niweidiol yn hwyrach mewn bywyd ac iechyd ymhlith pobl hŷn yng Nghymru.
- Cynnal adolygiad llenyddiaeth systematig ar ddulliau penderfynyddion cymdeithasol i atal trais yn erbyn plant.
- Datblygu adroddiadau cenedlaethol a rhyngwladol ar faterion iechyd cyhoeddus allweddol, gan gynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, trais yn erbyn plant, ac unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.
- Dadansoddiad ategol o ddata iechyd cyhoeddus o arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cefnogi Rhaglen Arbennig Imiwneiddio Gynhwysfawr y Sefydliad Iechyd Pan Americanaidd (PAHO) i gasglu gwybodaeth am werth cymdeithasol ehangach imiwneiddio.
- Gweithio gyda’r heddlu yng Nghymru i edrych ar brofiadau’r cyhoedd o achosion stopio a chwilio Adran 1 ac agweddau pobl tuag atynt.
Cyhoeddiadau
Rydym yn cyhoeddi ein gwaith ymchwil mewn adroddiadau rhyngwladol a chenedlaethol ac mewn erthyglau cyfnodolion mynediad agored.
Cysylltu â’r Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus
Os hoffech wybod mwy neu os ydych chi’n awyddus i siarad â’r tîm i weld sut y gallant eich helpu, e-bostiwch: [email protected]