Gwerthuso economaidd a modelu - Dulliau gwerthuso economaidd a modelu
Mae gwerthusiadau economaidd yn ffordd o ddeall a yw polisi neu ymyrraeth yn cynnig gwerth am arian. Caiff gwerthusiadau economaidd eu cynnal mewn sawl gwahanol ffordd, yn dibynnu ar y cyd-destun a’r penderfyniad y maent yn ei gefnogi. Er hyn, gall y gwahanol ddulliau rannu’r un cydrannau. Er enghraifft, gellir defnyddio arbedion cost, blynyddoedd bywyd wedi’u haddasu ar gyfer ansawdd (QALY), a chostau ymyrraeth i gynhyrchu dadansoddiad cost-cyfleustodau neu ddadansoddiad cost-budd.
Bydd y dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r prif ddulliau, sef: dadansoddiadau cost-effeithiolrwydd, cost-cyfleustod, cost-budd, canlyniadau cost a lleihau costau.
Modelu
Modelu yw pan fydd data o wahanol ffynonellau yn cael eu cyfuno i lenwi bylchau mewn gwybodaeth neu i wneud rhagamcanion o ganlyniadau yn y dyfodol. Mae’r rhan fwyaf o werthusiadau economaidd yn cynnwys gwaith modelu. Dyma rai o’r prif fathau o fodelau a ddefnyddir mewn gwerthusiadau economaidd:
- Coeden benderfyniadau;
- Modelau cadwyn Markov;
- Microefelychiad (neu fodelau lefel unigol);
- Efelychiadau o ddigwyddiadau ar wahân.
Gall y math o fodel a’i strwythur amrywio yn ôl cwestiwn y penderfyniad, y data sydd ar gael, a’r amser a sgiliau sydd gan y bobl sy’n creu’r model. Er enghraifft, gyda chlefydau heintus, gellir cyfuno modelau economaidd a modelau clefydau heintus fel SEIR (susceptible, exposed, infected, recovered). Mae dadansoddiadau sensitifrwydd a dadansoddiadau senario yn aml yn cael eu profi ar ganlyniadau model i asesu pa mor sensitif yw’r canlyniadau i ansicrwydd yn y rhagdybiaethau model.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8fed Rhagfyr 2025