Yr economïau llesiant a sylfaenol yng Nghymru
Mae’r cysyniadau o economi llesiant ac economi sylfaenol yn ffyrdd o feddwl am yr economi sy’n herio’r modelau traddodiadol o dwf economaidd ac yn cefnogi egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Mae Cymru’n flaengar iawn ymhlith gwledydd y byd yn y maes hwn, a chafodd ei dewis gan Sefydliad Iechyd y Byd yn un o bedair enghraifft o arfer gorau yn rhyngwladol.
Mae edrych ar yr economi llesiant a’r economi sylfaenol yng Nghymru trwy lens iechyd yn cynnig cyfleoedd i symud penderfyniadau a chyllidebau tuag at atal ac ymyrraeth gynnar, gan wella iechyd y boblogaeth a llesiant cymdeithasol.
Beth yw’r economi llesiant a’r economi sylfaenol?
“Economïau sy’n blaenoriaethu llesiant dynol, cymdeithasol, planedol ac economaidd, sy’n ffurfio “prifddinasoedd” llesiant. Mae’r rhain yn cynnwys asedau pwysig fel ymddiriedaeth, cydlyniant cymdeithasol, cyfranogiad, cynaliadwyedd amgylcheddol a chyflogaeth o ansawdd, sy’n hanfodol ar gyfer datblygu cymdeithasau iach, tecach lle gall pobl ffynnu.“
Mae rhaglen ‘Economi Sylfaenol ar gyfer Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r Economi Sylfaenol fel: “y rhan o’n heconomi sy’n creu a dosbarthu’r nwyddau a’r gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer bywyd bob dydd.” Mae’r rhaglen yn ystyried sut rydym yn gwario arian yng Nghymru a sut y gallwn wneud penderfyniadau gwell ar sut i’w wario, gan ganolbwyntio ar gaffael, cyflogaeth a hygyrchedd gwasanaethau.
Gwyliwch ein animeiddiad isod ar lles economeg yng Nghymru.
Cefnogi’r newid at economi llesiant ac economi sylfaenol yng Nghymru
Mae ein gwaith ar economïau llesiant a sylfaenol yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni deddfwriaeth, strategaethau a blaenoriaethau cenedlaethol.
Dyma rai o’r cysylltiadau strategol allweddol:
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) yn sefydlu’r cyd-destun a’r amodau ar gyfer gweithredu Economïau Llesiant a Sylfaenol, wedi’u harwain gan nodau a dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n hyrwyddo llesiant cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd hirdymor.
- Mae strategaeth ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru yn amlinellu dull systemau cyfan ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gyflwyno cysylltiad clir ag Economïau Llesiant ac Economïau Sylfaenol drwy ganolbwyntio ar iechyd a thegwch.
- Mae Cymru Can: Ein Gweledigaeth a’n Pwrpas’, gweledigaeth hirdymor (2023–30) Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn cynnwys cenhadaeth ar yr Economi Llesiant.
Mae dyletswydd economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru hefyd yn berthnasol i’r darn hwn o waith, yn ogystal â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Ar lefel y DU, mae Deddf y Gwasanaeth Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) 2013 (dolen Saesneg yn unig) yn rhoi cyd-destun pwysig ar gyfer y gwaith hwn.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r GIG ehangach yng Nghymru i symud tuag at Economïau Llesiant a Sylfaenol drwy yrru a rhannu arferion gorau ar draws rhwydweithiau, a thrwy gefnogi cydweithwyr y GIG i ymgorffori dulliau gwerth cymdeithasol. Rydym hefyd yn cefnogi datblygiad Economi Iechyd Ranbarthol fel rhan o Gyd-bwyllgor Rhanbarthol De-orllewin Cymru.
Rhannu arferion gorau ar economïau llesiant a sylfaenol
Mae ein gwaith ar economïau llesiant a sylfaenol hefyd yn rhan o’n cydweithrediad â Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (Fenis, yr Eidal) ar gyfer Swyddfa Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu.
Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop i gefnogi Menter Economi Llesiant Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig). Mae’r memorandwm hwn yn galluogi cydweithio agos mewn partneriaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol er mwyn cefnogi’r newid i Economi llesiant gydag iechyd a thegwch wrth ei graidd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi Country Deep Dive Report on the Well-being Economy in Wales (Saesneg yn unig), fel rhan o gyfres o astudiaethau manwl o brofiadau gwledydd yn Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd wrth symud tuag ar Economïau llesiant.
Yng ngwanwyn 2025, fe arweiniodd Cymru Ddeialog Polisi a oedd yn canolbwyntio ar y newid tuag at economi llesiant. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a ddaeth ag arweinwyr o bedair gwlad ynghyd i rannu gwersi ar weithio ar draws sectorau iechyd a’r economi i dorri’r cysylltiad rhwng iechyd gwael ac anweithgarwch economaidd drwy fuddsoddi mewn atal.