Cysylltwch ag Uned Gynorthwyo Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC)
Sefydlwyd UGAEIC yn 2004, ac mae’n wasanaeth ar gyfer Cymru gyfan sy’n rhoi cyngor, hyfforddiant ac arweiniad ar ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) ac Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP). Dyma sefydliad mwyaf blaenllaw y byd ym maes Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd. Yn 2024, dathlodd yr Uned 20 mlynedd ers ei sefydlu.
Gwaith UGAEIC yw cefnogi Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o safon uchel ar draws Cymru trwy wneud y canlynol:
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu ac o ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd ac Iechyd ym Mhob Polisi yn effeithiol yng Nghymru.
- Cyfrannu at ymgorfforiad y dull Iechyd ym Mhob Polisi drwy ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a gwahanol sectorau polisi, gan gynnwys cynllunio gofodol, masnach, iechyd, newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd, tai, trafnidiaeth.
- Cydweithio ag ystod o sefydliadau cyhoeddus, statudol, gwirfoddol, cymunedol, academaidd a phreifat yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Sicrhau bod Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn esblygu’n barhaus, a bod gwelliannau yn digwydd o ran ei ddefnydd a’r gwaith ymchwil amdano.
- Arloesi’r defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd mewn meysydd newydd.
- Cyhoeddi adnoddau a phapurau academaidd.
- Hyrwyddo gwaith Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac UGAEIC ym maes Iechyd ym Mhob Polisi.
Mae’r Uned yn cynnal hyfforddiant, ynghyd â chyfres o offer ac adnoddau, i gefnogi’r defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn:
- Papurau academaidd sy’n ymwneud ag Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
- Adroddiadau a gynhyrchwyd gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru ac sy’n gysylltiedig ag Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Saesneg yn unig)
- Manylion am yr hyfforddiant a ddarperir
Os hoffech gysylltu â ni, llenwch y ffurflen ganlynol a byddwn yn ceisio cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn: