Neidio i'r cynnwys

Cynllunio gofodol

Cynllunio gofodol yw’r broses o benderfynu sut y gellir defnyddio a datblygu lleoliadau at wahanol ddibenion, e.e. tai, cyflogaeth, hamdden, manwerthu a chyfleusterau gofal iechyd. Yng Nghymru, mae pob awdurdod cynllunio lleol yn cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy’n amlinellu’r strategaeth cynllunio gofodol hirdymor ar gyfer datblygu’r ardal. Mae’r cynllun yn nodi dyraniad y tir, safonau ansawdd dylunio, a graddfa’r datblygiad sydd i’w hadeiladu. Mae pob CDLl yn canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth leol a disgwylir iddo gydymffurfio â’r fframwaith yn nogfen Polisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru. Mae CDLl yng Nghymru yn canolbwyntio fwyfwy ar wella iechyd a llesiant eu cymunedau lleol ac ar leihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn cael eu defnyddio fel mater o drefn wrth gynllunio, a hynny o fewn polisi cynllunio yn gystal â phrosesau rheoli datblygu. Gall  Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd nodi effeithiau posibl allweddol cynllun, polisi neu ddatblygiad, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol anfwriadol, yn ogystal â’i effaith ar anghydraddoldebau iechyd.

Trawsysgrif – Iechyd a chynllunio gofodol

Iechyd a Chynllunio Gofodol

Mae ein hiechyd a’n llesiant yn cael eu llunio gan y lleoedd rydym yn byw ynddynt: sy’n cynnwys ein cartrefi, yr amgylchedd o’n cwmpas, ein mynediad at fannau gwyrdd a’n cyfleoedd i deithio trwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae mannau gwyrdd a pharciau yn darparu lleoedd ar gyfer gweithgareddau a chwarae a mynediad at natur, ac maent hefyd yn cael dylanwad cadarnhaol ar ein llesiant meddyliol.

Mae cael y cyfle i gerdded neu feicio yn ein hardal leol yn gwella iechyd ac yn helpu i leihau lefelau llygredd aer.

Mae cartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy yn lleihau salwch, yn lleddfu straen ac yn gwella cysylltiadau cymdeithasol, ac mae cael mynediad at fwyd iach yn ein galluogi i fwyta’n dda.

Mae cynllunio gofodol yn ymwneud â rheoli’r mannau hyn yr ydym yn byw ynddynt, a phenderfynu sut y gellir datblygu tir ac adnoddau i’w defnyddio ar gyfer tai, diwydiant a mannau gwyrdd.

Mae’r cysylltiad agos sy’n bodoli rhwng cynllunio ac iechyd a llesiant yn cael ei gydnabod mewn cynlluniau datblygu lleol yng Nghymru, ac mae awdurdodau cynllunio lleol yn sicrhau bod polisi cynllunio yn galluogi datblygu lleoedd iach.

Mae lleoliad a dyluniad adeiladau a gofodau yn bwysig wrth wella ansawdd bywyd cymunedau lleol, ac wrth leihau anghydraddoldebau.

Defnyddir asesiadau o’r effaith ar iechyd (neu HIAs) yn aml fel ffordd o gysylltu cynllunio ac iechyd gan eu bod yn galluogi ystyriaeth o sut y gallai cynllun, polisi neu benderfyniad effeithio ar iechyd a llesiant pobl.

Gellir defnyddio HIAs wrth ddatblygu cynlluniau i sicrhau bod iechyd a thegwch wedi’u hymgorffori mewn polisi cynllunio.

Gellir eu defnyddio hefyd yn ystod y broses ymgeisio am ganiatâd cynllunio fel ffordd o asesu, ac yna mynd i’r afael ag effeithiau posibl datblygiad ar iechyd a llesiant.

I ddysgu rhagor am HIAs, neu’r cysylltiadau sy’n bodoli rhwng cynllunio ac iechyd, ac i gael mynediad at ganllawiau a chymorth, cysylltwch ag Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Offer a thempledi defnyddiol

Mae UGAEIC wedi datblygu sawl adnodd allweddol i gefnogi’r defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd wrth baratoi CDLl.

Canllaw cynllunio ac iechyd yng Nghymru

Dyma ganllaw byr sy’n nodi pwy yw’r sefydliadau allweddol sy’n ymwneud â chynllunio ac iechyd, beth yw eu gwaith a’u cyfrifoldebau, sut maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd, a’r hyn y maen nhw’n ei gynhyrchu (polisïau, strategaethau, canllawiau ac ati). Mae hefyd yn tynnu sylw at rai cyhoeddiadau, ffynonellau data a phecynnau cymorth allweddol sy’n cefnogi gwaith cynllunio ac iechyd, ynghyd â gwybodaeth am greu lleoedd a phenderfynyddion ehangach.

Canllaw cynllunio gofodol ac iechyd.

Cymryd rhan yn y gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol

Mae’r canllaw hwn yn nodi’r camau allweddol wrth baratoi’r CDLl, a pha gyfleoedd sydd ar gyfer mewnbwn a ymgysylltiad ag iechyd. Bydd cynllunwyr polisi ym mhob awdurdod cynllunio lleol yn gallu cynghori ar y dulliau ymgysylltu ar gyfer datblygiad eu CDLl. Mae Byrddau Iechyd yn bartneriaid allweddol a ddylai gyfrannu at baratoi’r CDLl, o ran cynllunio gwasanaethau gofal iechyd, ac o ran mewnbwn iechyd y cyhoedd i ystyried iechyd a llesiant y boblogaeth bresennol a’r dyfodol.

Cymryd rhan yn y gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol

Templed ymateb i gais cynllunio

Er nad yw Byrddau Iechyd Lleol yn ymgynghorydd statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio, maen nhw’n un o’r cyrff cyhoeddus allweddol y dylid ymgynghori â nhw ar geisiadau penodol – er enghraifft datblygiadau dan arweiniad preswyl. Gellir cytuno yn lleol ar raddfa a natur y datblygiad yr ymgynghorir arno, h.y. ceisiadau preswyl mawr; ceisiadau preswyl mwy na graddfa, cwmpas neu maint penodol; unedau manwerthu; neu brosiectau seilwaith. Mae hefyd yn bosibl i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud sylwadau ar geisiadau hyd yn oed os na ymgynghorwyd â nhw yn uniongyrchol, os byddan nhw’n credu y gallai effeithio ar iechyd y boblogaeth a gwasanaethau gofal iechyd lleol. Gall Byrddau Iechyd gadw llygaid ar y rhestrau ceisiadau wythnosol i nodi datblygiadau allweddol.

Mae’r templed hwn yn enghraifft o’r math o ymateb y gall Bwrdd Iechyd Lleol ei roi i swyddog cynllunio sy’n delio â chais cynllunio. Nid oes rhaid defnyddio pob rhan ohono ar gyfer pob cais, dylech ddewis a dethol yn ôl natur y datblygiad sy’n cael ei gynnig. Mae’n cwmpasu cynllunio strategol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd ac iechyd y cyhoedd, gan edrych ar benderfynyddion ehangach iechyd ac effaith datblygiad ar iechyd a llesiant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau o safbwynt iechyd yr amgylchedd. Ar lefel genedlaethol mae hyn trwy Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus yr Amgylchedd. Yn lleol, gall y Byrddau Iechyd Lleol wneud sylwadau iechyd yr amgylchedd hefyd.

Canllaw ymateb i gais cynllunio ar gyfer byrddau iechyd

Crynodeb o ymateb cais cynllunio

Templed ymateb i gais cynllunio

Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn cymorth ar gyfer Ymarfer

Mae’r Pecyn Cymorth ar gyfer ymarfer yn canolbwyntio ar baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Ei nod yw sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer iechyd a lles drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy’n creu cymunedau iach, cyfartal a chydlynol, drwy roi arweiniad ar sut i ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd mewn polisi cynllunio.

Cael mynediad at y pecyn cymorth ar gyfer ymarfer.

Data a thystiolaeth allweddol

Mae amrywiaeth o dystiolaeth a data i’w cael o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys timau iechyd cyhoeddus lleol ac awdurdodau lleol. Bydd y data hwn yn helpu i ddatblygu cynlluniau, i ddylunio gofodau, ac i greu lleoedd iach.

Gallwch ddod o hyd i ffynonellau data a thystiolaeth ddefnyddiol ar y dudalen data ategol Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) a thystiolaeth.

Yn ôl i dudalen pwnc Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA)