Neidio i'r cynnwys

Rhwydwaith Ymarfer Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Beth yw Rhwydwaith Ymarfer Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd?

UGAEIC sydd yn cydlynu Rhwydwaith Ymarfer Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA). Ei nod yw cefnogi datblygiad proffesiynol trwy ddod â gweithwyr proffesiynol ynghyd i ddysgu, i rannu ymarfer, ac i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau.

Mae’n lle agored lle’r ydym yn annog cydweithwyr o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru a thu allan i rannu eu gwaith, i archwilio heriau a chyfleoedd o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac i ofyn am gyngor gan eraill yn y maes. Rydym yn cynnal sesiynau bedair gwaith y flwyddyn, gan roi sylw i wahanol anghenion bob tro.

Pam ymuno â’r Rhwydwaith Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd?

Mae’n rhoi cyfleoedd i gydweithwyr gysylltu ag eraill sy’n gweithio yn yr un lle, ac i geisio arweiniad gan arbenigwyr ym maes Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd. Mae gan bob digwyddiad ei thema ei hun, gan alluogi aelodau ymuno â’r sesiynau sy’n gweddu i’w diddordebau, eu dewisiadau a’u hanghenion nhw. Yn bwysicaf oll, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i aelodau fagu profiad, ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a rhannu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu gydag eraill.

Llenwch y ffurflen isod os ydych chi’n awyddus i ymuno â Rhwydwaith Ymarfer Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd UGAEIC:

Ymuno â’r Rhwydwaith Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd

Enw
Iaith ddewisol